Newyddion

Blas ar fyw yn y Sblot

Weithiau mae’r Sblot yn cael enw gwael; mae pobl yn dweud bod yr ardal yn lle gwael i fyw ynddi gyda phethau drwg yn digwydd, ond os edrychwch chi ychydig yn agosach, fe welwch chi mai’r gwrthwyneb sy’n wir. Lle llawn pobl frwdfrydig, cymuned gref a digonedd o brosiectau a gweithgareddau gwych er budd pawb.

Yn y pythefnos diwethaf, rwyf wedi cael nifer o brofiadau hyfryd yr hoffwn eu rhannu gyda chi i helpu i ddangos pa mor wych yw’r Sblot a pham fy mod yn falch o alw’r ardal yn gartref.

Dydd Gwener ddiwethaf, roedd yna noson tân gwyllt anhygoel a drefnwyd gan ein hysgol uwchradd leol, Willows, gyda mynediad am ddim, stondinau, gweithgareddau a bwyd blasus. Mae’n dod â miloedd o drigolion lleol ynghyd ac mae’n un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i nifer, ond mae’n bosib nad ydych yn gwybod mai Cymunedau’n Gyntaf oedd arfer trefnu’r digwyddiad hwn a phan ddaeth y rhaglen honno i ben, gallai’r noson tân gwyllt hefyd fod wedi dod i ben, pe na fyddai Ysgol Willows wedi camu ymlaen i gadw’r digwyddiad i fynd. Erbyn hyn, nhw sy’n gwbl gyfrifol am drefnu’r digwyddiad blynyddol a thrwy waith di-baid y staff, yn enwedig y Swyddog Allgymorth, Natalie Kendrick-Doyle, mae trigolion y Sblot a Thremorfa’n gallu edrych ymlaen at ddigwyddiad mawreddog bob blwyddyn.

Yn syth ar ôl hynny, bu Cadwch y Sblot yn Daclus drefnu digwyddiad glanhau er mwyn sicrhau bod iard Ysgol Willows a strydoedd Tremorfa yn lân y diwrnod canlynol. Ymunodd disgyblion yr ysgol â thrigolion i gasglu bron i 30 bag o sbwriel er mwyn dangos bod y bobl sy’n byw yma yn gofalu am yr ardal. Rydym wedi ymuno â phobl hyfryd Ffrindiau Parc Tremorfa ar gyfer y cyntaf o nifer o chyd-weithgareddau i gadw ein rhan farch ni o’r byd yn edrych yn dda, yn teimlo’n lân ac yn lle croesawgar ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.

Neithiwr, mynychais gyfarfod grŵp llywio ar gyfer prosiect ar Stryd y Rheilffordd; menter anhygoel dan arweiniad Becca a Hannah o’r Wiwer Werdd i drawsnewid darn o dir ger y rheilffordd yn hyb gwyrdd, bywiog, rhyngweithiol, cynhwysol ar gyfer pobl y Sblot ac Waunadda.  Mae’r ddwy wedi gyrru’r prosiect ymlaen heb lawer o ariannu ond yn llawn ffydd bod hwn yn rhywbeth y bydd y gymuned yn ei fwynhau ac yn ei defnyddio. Maen nhw wedi gwneud cymaint am ddim oherwydd eu bod wrth eu boddau yn byw yn Y Sblot, yn dwli ar frwdfrydedd y gymuned ar gyfer y prosiect hwn ac eisiau gweld prosiect trawsnewidiol yn cael ei gyflwyno yn nwyrain y ddinas, am unwaith. Maen nhw wedi fy ysbrydoli i wneud mwy!

Yr wythnos hon, fe gyflwynais gais am gyllid i ariannu prosiect murlun ar y cynhwysydd y tu ôl i ganolfan STAR ym mharc y Sblot a fydd, os yw’n llwyddiannus, yn gweld artist lleol yn gweithio gyda thrigolion i ddylunio a pheintio murlun ar gynhwysydd cludo (go hyll) a’i droi’n destun siarad i drigolion (er, does dim angen rheswm arnom i siarad; Y Sblot yw un o’r lleoedd mwyaf cyfeillgar rydw i erioed wedi byw ynddo!). 

Sy’n arwain at fy mhwynt olaf; cymaint rwy’n mwynhau byw ar fy stryd.

Yn yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi ‘benthyg’ potel o win o gymydog, wedi cael sgwrs yn Gymraeg yn y stryd gyda chymydog a’r dyn a oedd yn peintio fy nhŷ, wedi cynnig gwneud y siopa i gymydog arall, wedi gweld cymydog arall yn edrych am ei gath grwydr (mae’r gath adref nawr, diolch byth!), wedi cael noson feddw yn y ddinas gyda chymydog (a rhoi trefn ar y byd) a chael fy atgoffa gan gymydog ifanc iawn, pan i mi gael ras gydag ef a’i frawd yr haf diwethaf, bod y ddau ohonyn nhw wedi fy nghuro er eu bod nhw’n dau’n fach.

Fe dyfais i fyny yn y cymoedd lle mae yna wir synnwyr o gymuned, a gallaf gadarnhau rhywbeth i chi; dydw i erioed wedi teimlo mor gartrefol i ffwrdd o adref cyn i mi fyw yn y Sblot.

Diolch bawb; rydych chi wedi gwneud i mi deimlo’n hapus, yn rhan o’r gymuned, yn bositif a byth, byth, ar fy mhen fy hun.

Pethau eraill rwyf wedi cofio amdanynt ers i mi ysgrifennu’r erthygl hon:

O ie, rwy’n mynd i’r cyngerdd goffa nos fory yn St German’s gyda thri chymydog sydd wedi dod yn ffrindiau agos iawn!

Mae Côr Cymunedol Ysgol Uwchradd Willows yn anhygoel a chefais amser gwych yn canu gyda nhw, er fy mod yn llawn annwyd ac yn swnio fel Bonnie Tyler (er, falle bod hynny’n beth da!)

Rwy’n mynd i Gaffi Atgyweirio’r Sblot fory yng Nghanolfan Oasis i weld a oes rhywun yno all drwsio fy mag!  Am ddim!

Inksplott