Newyddion

Pethau gwych i’w gwneud yn Y Sblot

Mae cryn dipyn yn digwydd yn y Sblot; mwy nag y byddech yn meddwl. O fynd i lan y môr i chwarae pêl-fas neu fwynhau cerddoriaeth fyw, mae rhywbeth i bawb. Yn yr erthygl hon, rydym yn tynnu sylw at rai o’r pethau y gallwch eu gwneud yn yr ardal.

Mynd i lan y môr!

Traeth y Sblot, fel mae’n cael ei adnabod, yw ein darn bach o arfordir ac mae’n rhan swyddogol o Arfordir Cymru. Nid Barbados, neu hyd yn oed Barrybados, mohono ond mae ganddo gyfuniad unigryw o gyfaredd ddiwydiannol a naturiol. Gellir treulio awr yn hawdd yn cerdded ar hyd y glannau yn edrych ar enwau’r gwahanol fasnachwyr ar y brics sydd wedi golchi i’r lan ar ôl dymchwel ffatrïoedd lleol neu jyst dod o hyd i rai eitemau diddorol sydd wedi golchi i’r lan yn ystod penllanw.

I ddod o hyd i draeth y Sblot, ewch ar draws Parc Moorland, cerddwch i lawr Ffordd Portmanmoor i’r diwedd, trowch i’r chwith ar y gyffordd, cadwch i’r chwith wrth y gylchfan mawr gyda’r holl goed a chroeswch y ffordd, pan mae’n ddiogel gyferbyn â’r bwrdd poster ger y gweithfeydd dur. Mae yna giât fetel sy’n hawdd ei cholli, ond ewch drwyddi ac fe welwch chi blaen y traeth.

Mynd am frecwast

Os oes unrhyw beth y gallwch chi fod yn sicr ohono yn y Sblot, brecwast da yw hwnnw! Mae caffi Imperial ar Ffordd Sblot wedi bod yno ers amser maith ac mae’n draddodiad lleol sy’n gweini digonedd o ddewisiadau ar gyfer brecwast, gyda rhai hyd yn oed yn dod gyda sglodion! Mae dewisiadau llysieuol hefyd ar gyfer y sawl ohonoch nad sy’n bwyta cig.

Os byddai’n well gennych gael brechdan bacwn neu selsig i fynd yn hytrach nag eistedd i mewn rhywle, rhowch gynnig ar Fecws Carlisle. Gallant hyd yn oed roi brecwast cyfan mewn brechdan i chi!

Pa bynnag un ddewiswch chi, gallwch fod yn sicr o gael brecwast gwych am bris da.

Mwynhau picnic yn y parc

Mae dau barc yn y Sblot gyda digonedd o laswellt gwyrddlas sy’n berffaith am bicnic ar ddiwrnod braf o haf.  Boed yn Barc Moorland ar waelod Stryd Aberystwyth neu Barc y Sblot ar ochr arall yr hen reilffordd, mae’r ddau yn lleoedd perffaith i eistedd ar flanced a threulio ychydig oriau yn torheulo ac yn mwynhau picnic.

Os nad oes amser gennych i baratoi picnic ond bod chwant bwyd arnoch, mae fan Bwyd Stryd Pregos jyst ar ochr arall Parc Moorland ar y ffordd sy’n arwain at Farchnad y Sblot.

Archwilio Marchnad y Sblot

A dyna gyswllt defnyddiol i rif pedwar! Cychwynnwch eich wythnos gyda thrip i Farchnad y Sblot a gallwch brynu digonedd o ffrwythau a llysiau, prynu darn diddorol o gerddoriaeth, cael bargen wych ar feic ail law neu brynu rhywbeth i’w fwyta o’r stondin samosa wych yng nghefn y neuadd. Mae’n ffordd wych o dreulio awr neu ddwy a phwy a ŵyr beth ddarganfyddwch chi?

Darllenwch fwy am Farchnad y Sblot yma

Ymuno â grŵp actio amatur

Mae Hen Lyfrgell y Sblot ar waelod Ffordd Singleton wedi cael adfywiad yn ddiweddar ac mae bellach yn cynnal llu o weithgareddau cyffrous gan gynnwys cymdeithas actio amatur sy’n cwrdd bob nos Iau.

Mae Cwmni Theatr Telstars yn cwrdd am 7.30-9.30pm ac mae croeso i aelodau newydd!

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma

Mwynhau ychydig o gerddoriaeth fyw

Yn ôl i Hen Lyfrgell y Sblot eto! Ar ddydd Gwener olaf y mis, gall pobl y Sblot fwynhau cerddoriaeth werin am ddim yn ‘Y Parlwr’ am ond pum punt a gallwch chi fynd â’ch alcohol eich hun hefyd!

Am ragor o wybodaeth am Y Parlwr, darllenwch erthygl Careg Lafar yma

Mae’r Cottage, ‘tafarn’ olaf y Sblot, yn cynnig cerddoriaeth fyw bron bob nos Sul gyda sesiynau meic agored gyda’r gantores leol Geri-D neu gerddoriaeth fyw gan y cerddor lleol, Thoby Davis.  Yn cychwyn am 6pm (meic agored) neu ychydig yn hwyrach ar gyfer sesiwn Thoby Davies, mae’n ffordd wych o ddiweddu’r penwythnos ac yn gyfle gwych i bobl leol ddangos eu doniau cerddorol eu hunain.

Am ragor o wybodaeth am Thoby Jones, cliciwch yma

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd, bod yn weithgar yn lleol a gwneud rhywbeth da ar gyfer y gymuned felly mae’n ffantastig bod gennym gymaint o gyfleoedd i wirfoddoli.

Cadwch y Sblot yn Daclus

Os hoffech chi helpu gwneud y Sblot i edrych yn well, beth am ymuno â grŵp Cadwch y Sblot yn Daclus? Mae’r grŵp yn cwrdd ar benwythnos olaf y mis ac yn mynd i’r afael â gwahanol ran o’r Sblot bob tro. Maen nhw hyd yn oed yn darparu’r holl offer – y cwbl sy’n rhaid i chi wneud yw bod yn bresennol!

I ddarganfod mwy am y grŵp, cliciwch yma

I gadw mewn cysylltiad â’r grŵp ac i ddarganfod pryd maen nhw’n cwrdd nesaf i gasglu sbwriel, dilynwch nhw ar Facebook neu cadwch lygad ar Incsblot ar Twitter.

Os nad yw casglu sbwriel yn rhywbeth i chi, mae gan grŵp Cymunedau’n Gyntaf STAR restr hir o gyfleoedd gwirfoddoli o ddysgu llythrennedd digidol i roi help llaw gyda chlwb brecwast. Gallwch ddysgu mwy ar eu tudalen Facebook .

Gallwch ennill Credydau Amser trwy wirfoddoli gyda Cadwch y Sblot yn Daclus a Cymunedau’n Gyntaf STAR.

Mynd i nofio

Mae gan Hyb Star ym mharc y Sblot bwll nofio 25 metr newydd sbon sy’n addas ar gyfer nofwyr profiadol, dechreuwyr, plant a’r sawl sydd ond eisiau ymlacio ychydig. Mae un nofiad yn costio £4.15 i oedolion a £2.05 i blant.

I weld yr amserlen nofio, cliciwch yma

Mynd am beint

Er bod tafarndai a chlybiau’n cau’n aml y diwrnodau hyn, mae ambell un yn dal i fodoli yn y Sblot. Os oes gennych awydd am beint ar ôl gwaith, beth am alw heibio The Cottage ar Stryd Sanquhar, The New Fleurs ar Ffordd Walker neu am dro dros y bont i Waunadda i’r Royal Oak. Mae gwasanaeth cyfeillgar ym mhob un ynghyd â chyfle i gael sgwrs dros beint.

I ddarllen mwy am The Cottage, ewch i’w tudalen Facebook 

I ddarllen mwy am The Royal Oak, cliciwch yma

Tyfu pethau yn y rhandir cymunedol

Yn rhan o’r hyn o gynigir gan raglen Cymunedau’n Gyntaf STAR, gall pobl leol roi help llaw yn y rhandir cymunedol ym Mhengam Green ar brynhawn Mercher.

Mae gwahoddiad i aelodau o’r gymuned wirfoddoli ar y rhandir yn Safle Parhaol Pengam, Ffordd Rover. Mae’r prosiect ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn tyfu eu ffrwythau a llysiau eu hunain ac maen nhw’n edrych am wirfoddolwyr i helpu gyda phob agwedd o gynnal a chadw’r rhandir, felly cysylltwch â rhaglen Cymunedau’n Gyntaf STAR os oes gennych chi amser yn sbâr! Mae credydau amser ar gael.

I ddysgu mwy am y rhandir cymunedol, cliciwch yma

Ymestyn eich cof a’ch corff gydag ioga

Mae Meraki Yoga Wales yn rhedeg dosbarthiadau yng Nghanolfan Oasis ar Ffordd Sblot, nos Lun (7-8pm) a nos Fercher (7.15 – 8.15pm) am £5.  I ddysgu mwy, cliciwch yma

Parciau i blant

Mae dau barc i blant yn y Sblot ar hyn o bryd gyda siglenni, sleidiau a’r hen ffefrynnau eraill. Mae un y tu ôl i Hen Lyfrgell y Sblot ar Stryd Hinton ac un nesaf at Lidl rhwng Strydoedd Dwyreiniol Tyndall a Sanquhar. Roedd parc i blant ger Clos Horwood ond cafodd ei dymchwel fel rhan o’r gwaith i godi Pont Ffordd Beresford. Ond mae yna newyddion da a’r si ar led yw y bydd y parc yn ailagor yn fuan gan fod Network Rail wedi cytuno i osod un newydd ar ôl cwblhau’r gwaith.

Mynd allan i redeg

Sori fechgyn, mae hwn i ferched yn unig. Grŵp rhedeg yw Girls Together Splott sy’n cefnogi menywod lleol sydd eisiau cychwyn rhedeg.

Maen nhw’n cwrdd bob nos Iau ger Hen Lyfrgell y Sblot ac yn mynd allan i redeg tua’r bae. Mae grŵp i ddechreuwyr nad sy’n barod i redeg y pellter hwnnw sy’n cwrdd awr cyn y grŵp arall ac sydd fel arfer yn rhedeg lapiau o amgylch Parc Moorland. Os ydych chi eisiau cychwyn rhedeg ond ddim eisiau mynd ar eich pen eich hun, dyma’r grŵp i chi.

Darllenwch fwy am Girls Together Splott yma

Chwarae pêl-fas

Tîm pêl-fas i ferched yw Splott Sluggers sy’n ymarfer ym Mharc Moorland bob nos Lun. Mae’r grŵp hefyd newydd gychwyn chwarae gemau yn erbyn timau eraill. Maen nhw’n grŵp cyfeillgar iawn yn edrych aelodau newydd felly os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â nhw.

I ddysgu mwy am Splott Sluggers, cliciwch yma

Trefnu noson Bortiwgalaidd

Beth am brynu potel o Vino Verde (gwin gwyrdd) a rhai danteithion blasus o Benedito’s a chynnal noson Bortiwgalaidd?

Mae Siop Fwydydd Portiwgaleg Benedito’s ar dop Ffordd Sblot yn adnabyddus yn y Sblot – mae wedi bod yno am oesoedd ac mae’n gwerthu popeth y gallech eu dychmygu: Gwin, cwrw a gwirodydd, cig, caws, pysgod a bwyd môr, dofednod a helgig, diodydd meddal, tremocos, bwydydd tun a phaced, olifau, olew olewydd, bisgedi, grawnfwydydd, cacennau Portiwgaleg, cnau, bara, pasta, llysiau, melysion a hufen iâ!

Gallwch hefyd brynu potel o win gwyrdd Portiwgaleg a chawsiau ac olifau i fynd gyda’r gwin. Gallwch hefyd brynu penfras hallt yma ynghyd â sawl gwahanol fath o gigoedd. Yn ôl y wefan, maen nhw’n gwerthu’r holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch ar gyfer unrhyw bryd o fwyd neu achlysur yn Benedito’s.

Am ragor o wybodaeth ar y siop, cliciwch yma

Peidiwch ag anghofio am y pwdin! Mae Waunadda yn ffodus iawn i gael Nata & Co, sef y Becws Portiwgaleg, a agorodd ei siop gyntaf ar Stryd Clifton ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae’r siop yn hynod boblogaidd ac erbyn hyn mae ganddyn nhw dair siop arall: un yng nghanol y ddinas gyferbyn i’r castell, un yn y bae ger tafarn The Packet ac un ar Heol y Frenhines.

Mae’r coffi a’r cacennau’n anhygoel ac mae gwên ar wyneb y staff ar bob adeg, hyd yn oed pan mae’r ciw allan o’r drws.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma

Chwarae pêl-droed

Ar ôl sylweddoli bod rhai plant yn colli allan oherwydd eu bod yn methu fforddio ffioedd cofrestru clybiau pêl-droed lleol, sefydlodd Craig Truman Splott Albion Minis fel clwb pêl-droed rhoddion yn unig, gan osod swm y rhodd fel £1 i ddarparu hyfforddiant pêl-droed i blant phobl ifanc y Sblot, Waunadda a Thremorfa a oedd yn fforddiadwy.

Mae’r clwb yn ymarfer ar Barc y Sblot bron bob dydd ac mae ar agor i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan. Mae’r chwaraewyr ifancach yn bum mlwydd oed yn chwarae i’r tîm dan 7.

I ddarllen mwy am Splott Albion Minis, cliciwch yma

Mynd i chwilio am hen bethau

Marchnad Rad Dan Do Caerdydd yw un o wir berlau cudd yr ardal hon ac os oes gennych chi awr neu ddwy i’w sbario ar y penwythnos, mae’n le anhygoel i’w archwilio. Un gair o rybudd; gallwch chi golli oriau yn lle yma sydd fel ogof Aladin!

Mae’r farchnad wedi’i rhannu’n dair ardal; dwy brif ystafell sy’n cynnwys y stondinau ac ystafell ocsiwn lle mae eitemau’n cael eu harddangos ar ddydd Sadwrn er mwyn i bobl allu eu gweld cyn yr ocsiwn ar ddydd Sul (gallwch fynd i edrych ar yr eitemau ddydd Sul ar ôl 9am gyda’r ocsiwn yn cychwyn am 10am ac yn gorffen tua 1pm fel arfer).

I ddarllen mwy am Farchnad Rad Dan Do Caerdydd, cliciwch yma

Rhoi cynnig ar ddawnsio polyn!

A wyddoch chi fod yna stiwdio ffitrwydd polyn yn y Sblot? Finnau chwaith! Nid tan i mi gychwyn ymchwilio busnesau lleol i gyfweld â hwy ar gyfer Incsblot. Bingo!  Des i ar draws Pole Twisters.

Dwy chwaer sy’n rhedeg y busnes ac maen nhw’n cynnig amrediad o ddosbarthiadau ffitrwydd yn seiliedig ar dechnegau dawnsio polyn. Mae’r dosbarthiadau’n edrych fel hwyl ond fel gwaith caled!

I ddysgu mwy am Pole Twisters, cliciwch yma

Chwarae Bowls

Mae Phoenix Bowls Club wedi bod yn rhedeg ers 1990 gan ddathlu 25 mlynedd yn 2015.  Mae’r clwb yn chwarae ar lawnt fowlio Parc y Sblot ac yn 2014, fe gymeron nhw reolaeth o’r lawnt o’r cyngor oherwydd bod y ffioedd yn rhy uchel ar gyfer yr aelodau.

Dywedodd Martyn Watts o Phoenix Bowls Club:

“Mae pobl yn meddwl bod bowls yn ddiflas, ond mae’n wahanol i’r hyn welwch chi ar y teledu – mae’n gymdeithasol iawn a’r peth pwysig yw cael pobl allan o’r tŷ i siarad a mwynhau’r haul. Rydym eisiau i bobl ddod i roi cynnig arno – rydym yn sicr y byddant yn mwynhau. Mae bowls yn hwyl i’w chwarae yn hawdd i’w ddysgu. Dewch i gael sgwrs!”

Mae bowls cynghrair yn cychwyn ar Ebrill 9. Mae bowls cymdeithasol yn cychwyn ddiwedd mis Ebrill.

Mae dynion yn chwarae gemau’r gynghrair ddydd Mercher a dydd Sadwrn tra bod menywod yn chwarae ddydd Mawrth a dydd Iau. Cynhelir gemau’r gynghrair ym mwrdeistref Caerdydd ac mae’r clwb yn chwarae gemau cartref ac i ffwrdd. 

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma

Felly, dyna chi: Digonedd o bethau gwych i’w gwneud yn y Sblot!

Os ydych chi’n gwybod am weithgaredd gwych neu le anhygoel sydd ar goll o’r rhestr, rhowch wybod i mi yn y blwch sylwadau er mwyn i mi allu ei ychwanegu i’r rhestr!

Inksplott