Newyddion

Sinema awyr agored yn dod i’r Sblot yr haf hwn

Mae un o ddigwyddiadau bwyd mwyaf Caerdydd dros yr haf, Street Food Circus, yn dod â sinema awyr agored i’r ddinas yr haf hwn.

Gall y sawl sydd â diddordeb gofrestru ar gyfer digwyddiadau newydd y Sinema Bwyd Stryd. Yn amodol ar drwyddedu terfynol ar gyfer y safle, bydd Canolfan Warws Marchnad y Sblot yn agor cyn gynted â bod rheoliadau’r cyfyngiadau symud yn caniatáu hynny. 

Bydd gan y Sinema Bwyd Stryd arfaethedig le ar gyfer 100 o geir a phum tryc bwyd, gan gynnwys y ffefrynnau lleol, Franks a Dirty Bird gyda mwy i’w gyhoeddi yn fuan. Byddant yn dangos gwahanol fathau o ffilmiau gan gynnwys clasuron, comedi, arswyd, ffuglen wyddonol a sioeau cerdd.

Bydd pobl yn gallu archebu bwyd o’u ceir gyda staff gweini ar esgidiau rholio yn dod â’r bwyd iddyn nhw.

Dywedodd sylfaenydd Street Food Circus, Matt The Hat:

“Y Sinema Bwyd Stryd yw ein fersiwn o’r sinema awyr agored sy’n boblogaidd yn America. Gwyliwch ffilm o gysur eich car, bwytwch y bwyd stryd lleol, gorau o’ch hoff fasnachwyr, gyda thîm o staff ar esgidiau rholio yn dod â’r cyfan i chi.

“Rydym wedi bod yn gofyn i’n hunain sut gallwn ni greu digwyddiad yr haf hwn sy’n bodloni canllawiau cadw pellter cymdeithasol ond sydd dal yn teimlo fel noson allan wych, normal. Sinema awyr agored yw’r ateb perffaith.

“Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi ein ffilmiau a masnachwyr bwyd stryd cyntaf yn ystod yr wythnosau nesaf a byddwn yn cadarnhau dyddiad lansio pan fydd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ein caniatáu i wneud hynny.”

Am wybodaeth ar ddigwyddiadau’r Sinema Bwyd Stryd, cofrestrwch ar www.streetfoodcinema.co.uk neu dilynwch nhw ar Facebook, Instagram neu Twitter.

Inksplott