Newyddion

Coeden Geirios Stryd y Rheilffordd yn Bedwaredd yng Nghoden y Flwyddyn Cymru 2019!

Daeth seren stryd yn y Sblot yn bedwaredd yng Ngwobr Coeden y Flwyddyn Cymru eleni.

Am gamp! Byddai nifer yn synnu bod coeden yn y Sblot yn haeddu cyrraedd y brig mewn gwobr genedlaethol mor odidog, ond daeth y goeden ceirios yn Stryd y Rheilffordd, a enwebwyd gan breswylydd y Sblot, Hannah Garcia, yn bedwaredd yn y gystadleuaeth a drefnir gan Coed Cadw yn dilyn ymchwydd o gefnogaeth gan drigolion y Sblot.

Wrth enwebu’r goeden, dywedodd Hannah:

“Mae’r Sblot yn ardal drefol o Gaerdydd heb lawer o fannau gwyrdd felly, mewn ymdrech i ddod â phobl leol ynghyd a dathlu’r goeden werthfawr a phrydferth hon, bu grŵp bach o drigolion drefnu Parti Coeden. Aethom ati i ddosbarthu gwahoddiadau amlieithog, hongian posteri, pobi cacennau, hongian byntin a chasglu sbwriel i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer y parti. Nid oeddem yn siŵr a fyddai unrhyw un yn dod, ond ar y diwrnod daeth llu o bobl gan ddod â chacen i’w rannu a phlanhigion i’w cyfnewid, yn chwarae cylchau hwla yn stryd ac yn dod i adnabod ei gilydd er gwaethaf y glaw trwm! Roedd yna awyrgylch gwych ac mae pawb yn edrych ymlaen at ddathlu’r goeden gyda rhagor o bartïon yn y dyfodol.”

Ar ôl i goeden ceirios Stryd y Rheilffordd gyrraedd y rhestr fer, aeth Hannah a’i chydweithiwr Rebecca Clarke ati i drefnu parti arall i drefnu llwyddiant y goeden yn y gystadleuaeth gydag aelodau band poblogaidd Caerdydd, Wonderbrass, yn ymuno yn yr hwyl.

Er bod y brif wobr wedi mynd i’r Hen Goeden Castanwydden Bêr 400 mlwydd oed ym Mhont-y-pŵl. gall y Sblot fod yn hynod falch o ddod yn bedwaredd ac yn ddiolchgar i ddwy ferch leol a’u hymdeimlad o gymuned.

Dywedodd Hannah ar Twitter:

“Er nad ein coeden ni enillodd, rydym yn hoff iawn ohoni – mae pob coeden ar y stryd yn bwysig ar gyfer ein haer, yr hinsawdd a’n llesiant. Diolch Coed Cadw am y cyfle i gymryd rhan, roedd yn hwyl!”

Da iawn chi Hannah a Rebecca!  Rydym yn falch ohonoch chi!

Inksplott