Newyddion

Lansio ymgyrch i ddatrys niwsans baw cŵn

Mae baw cŵn ar y palmant yn broblem fawr ym maestrefi Caerdydd, gan gynnwys y Sblot, Waunadda a Thremorfa, ond mae’n bosib bod yna ddatrysiad ar y ffordd!

Mae Cyngor Caerdydd yn gofyn i breswylwyr dynnu llun o faw cŵn yn eu hardal leol ac anfon y lluniau i’r Cyngor trwy Ap Caerdydd Gov.

Gellir lawrlwytho Ap Caerdydd yn hawdd ar Google Play Store neu Apple App Store trwy chwilio am ‘Cardiff Gov’.

Gan ddefnyddio meddalwedd geotagio, mae’r Cyngor yn gallu targedu’r prif fannau gydag adnoddau digonol i gael gwared â’r baw hwn, a allai fod yn beryglus, o strydoedd Caerdydd yn fwy effeithlon.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd:

“Mae baw cŵn ar ein strydoedd yn hyll, yn annymunol ac yn wrthgymdeithasol. Mae hefyd yn gwbl ddiangen, oherwydd pe byddai pobl yn tacluso ar ôl eu hanifeiliaid, ni fyddai unrhyw faw cŵn ar strydoedd Caerdydd i dynnu llun ohono.

“Mae baw anifeiliaid hefyd yn beryglus i gŵn eraill a phobl. Mewn cŵn, gellir trosglwyddo clefyd Parvo rhwng anifeiliaid, a all fod yn farwol.

“Mewn pobl, os yw pridd neu dywod sydd wedi’i halogi gyda baw cŵn heintus yn cael ei amlyncu i mewn i’r corff dynol, gall arwain at docsocariasis, sy’n cael ei achosi gan barasit o’r enw llyngyren ac sy’n effeithio ar blant rhwng un a phedair mlwydd oed gan amlaf.

“Gofynnwn i berchnogion cŵn lanhau ar ôl eu hanifeiliaid ac os ydynt yn gweld baw anifeiliaid eraill ar y ffordd, yn y parc neu mewn man agored arall, i dynnu llun ar eu ffôn a’i anfon atom trwy ap Caerdydd.”

Mae’r fenter newydd hon yn rhan o ymgyrch barhaus y ddinas i lanhau’r ddinas a chreu ymdeimlad o falchder mewn cymunedau ledled Caerdydd trwy ymgyrch Carwch eich Caerdydd.

Yn ôl y gyfraith, mae gofyn i berchnogion cŵn lanhau ar ôl eu hanifail anwes ac mae’r sawl sy’n cael eu dal yn peidio glanhau ar ôl eu hanifail yn wynebu Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. Gall hyn gynyddu i £1,000 os yw’r achos yn cael ei chyfeirio i Lys yr Ynadon.

Aeth y Cynghorydd Michael ymlaen i ddweud,

“Mae ap newydd Caerdydd yn fodd cyflym a syml o roi gwybod i’r Cyngor am broblemau baw cŵn. Yna, gallwn ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael i ni mewn modd effeithiol sy’n ein helpu i gyflwyno gwasanaethau’n fwy effeithiol.”

I gael y newyddion diweddaraf ar y fenter newydd, dilynwch #papthepoop ar Twitter @cardiffcouncil a Facebook trwy @cardiff.council1

Inksplott