Cymuned

CROESO AR OLWYNION; DEFNYDDIO BEICIAU I ROI ANNIBYNIAETH I FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES

Gall reidio beic gael effaith gadarnhaol fawr ar iechyd meddwl, a dyna pam mae Oasis Caerdydd wedi creu Seiclo Caerdydd #ShareToRepair; prosiect sy’n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches i uwchgylchu beiciau a rhoi’r annibyniaeth iddynt archwilio eu dinas newydd.

Canolfan gymorth a gwasanaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghaerdydd yw Oasis Caerdydd. Yn seiliedig ar Ffordd Sblot, prif nod a gweledigaeth y ganolfan yw helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio i’r gymuned leol. 


Cyn Covid, roedd gan Oasis 150 – 250 o ymwelwyr bob dydd. Roedd hyn yn cynnwys pobl o Iran, Irac, Affghanistan, Swdan, Mali, a’r Congo ymhlith nifer o wledydd eraill.

Mae Oasis yn cynnal amryw sesiynau i ferched yn unig ynghyd â gwahanol grwpiau, dosbarthiadau celf, dosbarthiadau iaith Saesneg, sesiynau chwaraeon, sesiynau cynghori, fforymau eiriolaeth a sesiynau ymlacio, ac yn darparu cinio blasus am ddim bob dydd o’r wythnos.
 


Er mwyn cynnwys ac ymgysylltu â’r gymuned leol ac ehangach â’r hyn maen nhw’n ei wneud, mae’r tîm yn Oasis hefyd yn cynnal digwyddiadau cymunedol a digwyddiadau codi arian rheolaidd, megis ymgyrch #ShareToRepair Seiclo Caerdydd a lansiwyd ddydd Mercher 26 Awst ac sy’n para tan ddydd Mercher 30 Medi. 

Mae #ShareToRepair yn brosiect a fydd yn gweithio ochr yn ochr â ffoaduriaid a cheiswyr lloches i uwchgylchu beiciau a rhoi annibyniaeth iddynt archwilio eu dinas newydd.
 


Mae mwyafrif cleientiaid Oasis yn byw ac yn derbyn cefnogaeth gan sefydliadau mewn un ardal yng Nghaerdydd, sy’n golygu eu bod yn annhebygol o archwilio a mwynhau rhannau eraill o’r ddinas a allai gael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a’u llesiant. 


Nod yr ymgyrch hon yw mynd i’r afael â’r mater trwy ddarparu beiciau am ddim a chynnal a chadw beiciau yn rheolaidd i aelodau Oasis. Bydd hyn yn rhoi symudedd cymdeithasol ac annibyniaeth i bobl ynghyd ag ymdeimlad o berthyn. 

Mae’r ganolfan yn gobeithio codi £4000 er mwyn gallu rhedeg y prosiect am hyd at 12 mis. Bydd derbyn y swm hwn yn sicrhau:

  • Bod hyd at 4 cleient-wirfoddolwr yn gallu derbyn hyfforddiant o safon diwydiant i gefnogi’r gwaith o gynnal a chadw’r beiciau;
  • Bod gwirfoddolwyr a staff yn gallu cynnig beic newydd i hyd at 10 cleient yr wythnos, yn ogystal â chynnig gwasanaeth cynnal a chadw a chefnogaeth iddynt;
  • Bod modd cynnal a chadw, neu roi i ffwrdd, mwy na 500 beic o fewn y 12 mis hynny.

Sut gallwch chi helpu

Gwnewch rodd i’r apêl trwy annog pobl i gyfrannu trwy http://bit.ly/CycleCardiffShareToRepair

Peidiwch ag anghofio tynnu llun ohonoch chi a’ch beic a helpu i ledaenu’r gair gan ddefnyddio’r hashnod #ShareToRepair.

Inksplott