Newyddion

Cymuned Caerdydd yn achub darn o dir rhag cael ei datblygu: mae hyb cymunedol, gwyrdd newydd yn dod i’r Sblot

Yn dilyn ymgyrch gyhoeddus gan Green City Events i achub safle ar Stryd y Rheilffordd yn y Sblot at ddefnydd cymunedol, mae Cyngor Caerdydd bellach wedi cyhoeddi ei fwriad i ganiatáu i fenter gymunedol gymryd perchnogaeth o’r safle.

Mae Green City Events wedi bod yn gweithio i sicrhau perchnogaeth o’r tir ar Stryd y Rheilffordd – sydd wedi bod yn wag ers i Network Rail gwblhau’r gwaith i drydanu’r rheilffordd – ar gyfer pobl leol ers 2015. Roedd ymgynghoriad cymunedol a gynhaliwyd ddechrau 2018 yn dangos llawer o gefnogaeth ar gyfer y prosiect ond ym mis Hydref, bu Green City Events dderbyn y newyddion na fyddai’r tir yn cael ei darparu i’r gymuned oherwydd ei gwerth datblygu posib.

Fodd bynnag, yn dilyn deiseb ar-lein a lofnodwyd gan dros 3,000 o bobl leol, ac a gefnogwyd gan gynghorwyr lleol a’r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru, mae Cyngor Caerdydd bellach wedi penderfynu prydlesu’r tir i Green City Events i ddatblygu hyb cymunedol, creadigol a man gwyrdd ar gyfer pobl Waunadda a’r Sblot.

Mae’r safle, cyn barc cyhoeddus ac iard waith ar gyfer Carillion yn fwy diweddar, yn rhedeg rhwng Stryd y Rheilffordd a’r rheilffordd, yn agos at Ffordd y Sblot a Stryd Clifton. Unwaith i’r safle agor, bydd yn cynnig gweithleoedd fforddiadwy ar gyfer busnesau lleol, hyb ar gyfer digwyddiadau a dathliadau cymunedol, man tyfu bwyd ac ardal chwarae gwyllt ynghyd ag amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau eraill a fydd yn cael eu dewis a’u dylunio mewn partneriaeth â phobl leol. Ymhlith yr awgrymiadau hyd yn hyn mae cyfleusterau atgyweirio beiciau, storfa tŵls, cwt ieir, cychod gwenyn ac oergell gymunedol.

Nod Green City yw creu man diogel yng nghanol y Sblot ac Waunadda i’r gymuned ddod ynghyd a dod yn fwy gwydn trwy rannu sgiliau, creu cysylltiadau, cynhyrchu bwyd ac adeiladu asedau cymunedol a rennir. Bydd mannau i fusnesau ar ffurf cynhwysyddion cludo yn helpu i ddatblygu’r economi leol ac yn dod â phobl newydd i’r ardal, tra bydd agweddau byw gwyrdd y safle yn cefnogi llesiant ac yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd.

Roedd ymateb pobl leol i’r ddeiseb i adennill y tir yn frwd ac roedd yna neges glir bod angen y prosiect hwn:

“Mae mannau gwyrdd yn helpu iechyd meddwl, yn helpu i gydbwyso strwythurau sy’n niweidiol i’r amgylchedd ac yn dod â chymunedau ynghyd mewn modd anuniongyrchol sy’n arwain at ostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnydd ym malchder pobl yn eu hardal leol a dinasyddiaeth weithgar ddiarwybod!”

“Mae cael rhywbeth fel hyn yn ein cymunedau yn bwysicach nawr nag erioed yn enwedig mewn ardaloedd tlotach er mwyn i ni allu darparu addysg ac ymwybyddiaeth o fyw mewn modd mwy gwyrdd.”

“Mae diffyg mannau gwyrdd yn y Sblot ac Waunadda fel mae hi felly mae hwn yn gyfle ffantastig nid yn unig i fuddio’r gymuned leol ond hefyd bywyd gwyllt a’r amgylcheddau cyfagos. Bydd y Sblot ac Waunadda yn gallu bod yn falch o gael man gwyrdd sy’n darparu buddion enfawr i lesiant.”

Mae Rebecca Clark a Hannah Garcia, cyfarwyddwyr Green City, hefyd yn byw ar Stryd y Rheilffordd ac wedi cael profiad personol o’r angen am y prosiect hwn yn yr ardal. Dywedodd Hannah,

“Am anrheg Nadolig gynnar berffaith! Rydym wrth ein boddau i gychwyn cynllunio’r prosiect hwn gyda’r gymuned ac i adeiladu rhywbeth arbennig ar gyfer y Sblot ac Waunadda.”

Dywedodd Rebecca,

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r cynghorwyr Jane Henshaw, Ed Stubbs, Owen Jones a Russell Goodway, yn ogystal ag arweinydd y cyngor Huw Thomas, am eu cefnogaeth a’u gweithrediadau i symud ymlaen â’r prosiect hwn. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i drigolion Caerdydd sydd wedi cynnig eu hamser a’u cefnogaeth ar gyfer yr ymgyrch hon.”

Bydd Green City Events a Chyngor Caerdydd nawr yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn cytuno ar brydles a symud ymlaen gyda’r caniatâd cynllunio. Gyda’r ddau yn awyddus i gychwyn gweithio ar y prosiect, y nod oedd cwblhau’r cytundebau hyn gychwyn 2019 a chychwyn gweithio ar y tir yn ddiweddarach yr un flwyddyn.

Cefnogaeth gymunedol

Mae Green City Events yn galw ar bobl leol Caerdydd i helpu i fynd ati i gychwyn y prosiect hwn ac i rannu eu sgiliau. Ydych chi’n gyfreithiwr, pensaer, garddluniwr, trydanwr, plymwr neu adeiladwr? Neu efallai bod gennych chi brofiad o systemau diogelwch neu o redeg ymgyrchoedd cymunedol? Os ydych yn credu bod gennych chi rai sgiliau defnyddiol, adnoddau neu gysylltiadau a allai fuddio’r prosiect, cysylltwch â becca@greencityevents.co.uk.

Y tir

Mae’r tir yn rhedeg ar hyd y rheilffordd yn y Sblot – ar hyd Stryd y Rheilffordd gyda’r fynedfa ar ddiwedd Stryd Adeline. Network Rail oedd yn berchen y tir yn wreiddiol gan ei roddi i Gyngor Caerdydd yn y nawdegau. Roedd y cyngor yn ei defnyddio fel parc bach, cyhoeddus gydag offer chwarae ond cafodd ei gau oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd yn segur am 10 – 15 mlynedd. Yn 2016, bu Network Rail glirio’r tir a’i defnyddio fel canolfan eu gwaith ar Bont Ffordd Sblot. Mae wedi bod yn wag ers mis Gorffennaf 2018.

Cwmni Buddiannau Cymunedol wedi’i leoli yng Nghaerdydd yw Green City Events. Cafodd ei sefydlu gan Rebecca Clark yn 2012 i helpu trigolion Caerdydd ymgysylltu â phynciau cynaladwyedd a chreu dinas fwy gwyrdd ac iach. Fel menter gymdeithasol, nod gwaith Green City yw buddio’r cymunedau cyfagos a defnyddir unrhyw elw a gynhyrchir gan y busnes i gyflawni hyn.

Mae’r darn o dir wedi’i leoli y tu ôl i Stryd y Rheilffordd gyda’r fynedfa gyferbyn â diwedd Stryd Adeline. Ewch i https://greencityevents.wixsite.com/saveourland i ddysgu mwy.

Gellir dod o hyd i’r ddeiseb wreiddiol ar https://www.change.org/p/stop-cardiff-council-from-selling-public-park-for-profit

Inksplott