Newyddion

Dod ag ychydig o ddisgleirdeb i’r Sblot: Cyfweliad Incsblot gyda Rhian Kate

Mae Incsblot wrth ein boddau yn hyrwyddo busnesau lleol ac roedd yn bleser cyfweld ag entrepreneur diweddaraf y Sblot, Rhian Kate, sydd â’i busnes ei hun yn gwneud gemwaith hyfryd.

Incsblot: Helo Rhian, diolch am gytuno i wneud cyfweliad ar gyfer Incsblot. Allwch chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi’ch hun a’ch busnes, Rhian Kate?

Rhian: Rhian ydw i ac fe gychwynnais fy musnes gemwaith ar ôl i mi orffen prifysgol ychydig dros 2 flynedd yn ôl. Rwyf wedi bod yn frwdfrydig erioed am wneud a gallu gwerthu eitemau rwyf wedi’u dylunio fy hun a’u gwneud â llaw; mae’n rhoi llawer o bleser i mi!

Incsblot: Sut gychwynnoch chi yn y maes? Allwch chi ddweud ychydig wrthym am hanes eich busnes?

Rhian: Fe wnes i radd mewn gwneuthuriad ac roedd yn gam naturiol i mi ar ôl hynny. Rwyf wedi bod wrth fy modd erioed yn gwerthu’r pethau rwy’n eu gwneud ac roedd gen i gyfle i gael lle i weithio a chael fy mentora am flwyddyn ar ôl gorffen y brifysgol. Roedd yn ymddangos fel cyfle rhy dda i golli, felly fe sefydlais ‘Rhian Kate’ a dwi erioed wedi difaru’r penderfyniad.

IncsblotA pham fod y busnes yn y Sblot?

Rhian: Rwyf newydd symud i fyw yn y Sblot! Mae’n neis byw mewn ardal sy’n agos i swyddfa bost heb y ciwiau hir fel sydd yn yr un yn y dref. Mae rhedeg eich busnes eich hun yn gallu bod yn anodd felly mae bod rhywle tawel, gyda phopeth sydd eu hangen arnoch gerllaw yn gwneud gwahaniaeth mawr.

IncsblotBeth yw eich arbenigedd?

Rhian: Rwy’n gwneud yr holl emwaith â llaw felly mae rhai prosesau rwy’n arbenigo ynddynt. Piwter yw’r prif ddeunydd rwy’n ei defnyddio; mae ganddo liw llwydaidd, felly rwy’n creu gweadwaith ar arwyneb y piwter sy’n golygu bod pob darn yn unigryw.

IncsblotBeth yw stori orau ers sefydlu’r busnes?

Rhian: Baswn i’n dweud pan i mi ennill gwobr! Roedd rhaid i mi sôn am fy musnes i banel o feirniaid er mwyn ceisio ennill gwobr ac fe ddewison nhw fy musnes fel un o’r enillwyr. Roedd yn brofiad anhygoel a doeddwn i byth yn meddwl baswn i’n ennill rhywbeth fel ‘na!

IncsblotDywedwch gyfrinach wrthym am y Sblot neu rywbeth nad ydym yn ei wybod am yr ardal.

Rhian: Rwy’n dal i ddysgu am y Sblot felly rwy’n methu awgrymu unrhyw beth ond rwy’n edrych ymlaen at ddarganfod mwy.

IncsblotUnrhyw gynlluniau neu ddigwyddiadau cyffrous ar y gorwel?

Rhian: Ar hyn o bryd rwyf wrthi’n ceisio penderfynu beth rwyf eisiau ei gyflawni gyda fy musnes ac i ba gyfeiriad rwyf eisiau mynd ynddi, ond rwy’n gobeithio cael stondin mewn mwy o farchnadoedd y flwyddyn hon.

Incsblot: A yw pobl yn gallu eich dilyn ar-lein? A oes gennych chi Facebook, Twitter neu wefan?

Os hoffech chi gymryd golwg ar fy nghynnyrch, dyma fy ngwefan –

https://www.rhiankate.co.uk/jewelleryshop

Rydw i ar instagram hefyd – https://www.instagram.com/rhiankatemakes/ 

Facebook – https://www.facebook.com/RhianKateJewellery/

A Twitter – https://twitter.com/RhianKateMakes 

IncsblotMae hynny’n wych – diolch yn fawr am y cyfweliad!

Inksplott