Newyddion

Cynllun Haf Arloesol i Blant yn Hyb STAR

Roedd y plant yn hapus yng Nghanolfan Hamdden STAR dros wyliau’r haf diolch i amrediad o weithgareddau hwylus ac iachus a ariannwyd trwy nawdd gan y cwmni peirianneg lleol, Centergreat.

Gan weithio ochr yn ochr â’r elusen Streetgames, aeth Better ati i drefnu rhaglen Fit, Fed and Read ar ddydd Llun a dydd Gwener ar gyfer plant 8 oed ac yn hŷn i fod yn actif a chymryd rhan mewn campau chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol. Roedd y sesiynau’n cychwyn gyda ffrwythau a thost cyn mynd ati i wneud amryw gampau chwaraeon, dan do a thu allan, am gwpl o oriau cyn cael egwyl am ginio. Rhoddwyd dyddlyfr bach i bawb a fynychodd i gadw cofnod o’u gweithgareddau.

Dywedodd Deborah Yates, Rheolwr, Better Caerdydd:

“Fel mae pob rhiant yn gwybod, nid yw’n cymryd yn hir i blant ddiflasu o’r gwyliau ysgol a dechrau cwyno bod ganddyn nhw dim byd i’w wneud. Yn ffodus, roedd gan Hyb Star Better digonedd o adloniant i blant yn ystod y gwyliau hir: o dennis bwrdd a phêl-droed i gelf a chrefft a heriau darllen. Gyda chymaint o brofiadau cyffrous i roi cynnig arnynt, roedd rhywbeth i bawb. Fe ymunom â Llyfrgell Hyb STAR a Chaffi Innovate i ddatblygu’r rhaglen ac roeddem yn falch iawn o gael cefnogaeth cymaint o sefydliadau er mwyn gallu darparu’r gweithgareddau am ddim. Bu dro 100 o blant gymryd rhan.”

Mae Fit, Fed and Read ar gael i blant wyth oed neu’n hŷn.

Menter gan StreetGames UK Initiative yw Fit, Fed and Read a gafodd ei greu mewn ymateb i gorff cynyddol o ymchwil ar y cynnydd yn anghydraddoldebau llwgu yn ystod y gwyliau, unigedd ac anweithgarwch. 

Cychwynnodd Better ei bartneriaeth i reoli a rhedeg wyth o ganolfannau hamdden Caerdydd yn 2016, gan fuddsoddi £3.5 miliwn yn narpariaeth hamdden prifddinas Cymru. Mae Better yn rhan o GLL, menter cymdeithasol elusennol mwyaf y DU sydd â’r nod o ddarparu gwasanaethau hamdden, iechyd a chymunedol.

Inksplott