Newyddion

Sefydliad lleol yn lansio ymgyrch i achub darn o dir at ddefnydd cymunedol

Cyngor Caerdydd yn gwrthod cynlluniau am hyb gwyrdd, cymunedol ar gyfer y Sblot ac Waunadda

Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu cyn barc cyhoeddus yn y Sblot ar gyfer datblygiad cymunedol er gwaethaf cynlluniau cymunedol ar gyfer hyb cymunedol, creadigol a man gwyrdd.

Yn ôl Green City Events, mae’r Cyngor yn ceisio rhoi stop ar yr adnodd mawr ei angen hwn ac mae’n annog pobl Caerdydd i gefnogi eu hymgyrch i wrthdroi eu penderfyniad a sicrhau’r tir at ddefnydd cymunedol.

Mae sefydliad lleol Green City Events wedi bod yn gweithio i ddiogelu’r darn hwn o dir ar gyfer prosiect dan arweiniad y gymuned ers 2015. Ym mis Chwefror eleni, fe gyflwynon nhw gais manwl ynghyd ag asesiadau effaith a rhagolygon ariannol a oedd yn dangos bod ganddynt y gallu i wneud y prosiect hwn yn gynaliadwy a darparu buddion mawr eu hangen i’r ardal ddifreintiedig hon o Gaerdydd. Wedi blynyddoedd o obaith gwag, maen nhw bellach wedi clywed na fydd y tir yn cael ei darparu at ddefnydd cymunedol oherwydd y potensial datblygu a masnach sy’n gysylltiedig â’r safle.

Mae Green City Events yn galw nawr am gefnogaeth y gymuned leol i wneud cais i’r Cyngor wrthdroi eu penderfyniad a rhoi pobl cyn elw. Mae eu hymgyrch wedi cael cefnogaeth dros 2,000 o bobl o fewn ond tridiau ac mae’r cannoedd o sylwadau a wnaed gan bobl leol yn cadarnhau bod y bobl yn yr ardal hon yn grac ac yn drist am benderfyniad y Cyngor.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd cyfarwyddwr Green City Events, Rebecca Clark yn cwrdd â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, Russell Goodway a’r Cyfarwyddwr Datblygiad Economaidd, Neil Hanratty i drafod y penderfyniad gyda’r gobaith o’i wrthdroi ac adfer y tir hwn ar gyfer y gymuned. Bydd Rebecca yn cael ei chefnogi gan Gynghorwyr y ward yn ogystal â Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru.

Dywedodd Rebecca Clark, cyfarwyddwr Green City Events:

‘Rydym yn drist ac yn grac, ar ôl rhoi blynyddoedd o obaith gwag i ni, bod Cyngor Caerdydd, heb esboniad rhesymol, yn gwrthod y defnydd o’r tir hwn i’n cymuned. Pam fyddai’r Cyngor yn dewis peidio cefnogi prosiect a fydd yn dod â buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd mor gadarnhaol i wardiau difreintiedig Waunadda a’r Sblot? Mae gennym gefnogaeth gan sefydliadau, Cynghorwyr ac unigolion lleol. Nid ydym yn credu bod proses y Cyngor o wneud y penderfyniad wedi bod yn deg, yn ddemocrataidd nac yn eglur. Rydym eisiau gwrthdroi’r penderfyniad hwn.’

Y tir

Mae’r tir yn rhedeg ar hyd y rheilffordd yn y Sblot – ar hyd Stryd y Rheilffordd gyda’r fynedfa ar ddiwedd Stryd Adeline.

Network Rail oedd yn berchen y tir yn wreiddiol gan ei roddi i Gyngor Caerdydd yn y nawdegau. Roedd y cyngor arfer ei defnyddio fel parc bach, cyhoeddus gydag offer chwarae ond cafodd ei gau oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd yn segur am 10 – 15 mlynedd. Yn 2016, aeth Network Rail ati i glirio’r tir er mwyn ei defnyddio fel canolfan eu gweithrediadau yn ystod y gwaith ar Bont Ffordd Sblot.

Roedd Network Rail a Carillion yn gefnogol iawn o’r cynnig i ddefnyddio’r tir er budd y gymuned leol gan adael rhai elfennau o’r isadeiledd yn eu lle a fyddai’n ddefnyddiol iawn pe byddai ein datblygiad arfaethedig o’r safle yn cael ei gadarnhau.

Y prosiect arfaethedig

Mae Green City Events eisiau adfywio’r safle hwn i greu hyb cymunedol a man gwyrdd lle bydd pobl yn gallu dysgu, chwarae, rhannu a chreu cysylltiadau.

Mae pedair prif elfen i’r prosiect:

  1. set o stiwdios mewn cynhwysyddion cludo ar gyfer busnesau a mentrau cymdeithasol lleol, gan ddod â chyfleoedd economaidd newydd i’n hardal a chaniatáu i bobl leol redeg eu busnesau bach yn agos at adref. Bydd y rhent o’r mannau hyn yn helpu cefnogi gweithgarwch cymunedol arall.
  2. hyb cymunedol gyda chyfleusterau cegin, ystafell ddysgu ac ardal awyr agored dan do. Bydd hwn yn darparu cartref ar gyfer gweithgareddau cymunedol cyfredol Green City ac yn darparu lle ar gyfer grwpiau cymunedol a phreswylwyr lleol. Bydd yr hyb yn lleoliad ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau cymdeithasol, gweithdai a hyfforddiant, digwyddiadau busnesau lleol, clybiau swper, prydau cymunedol, grwpiau ysgol a llawer mwy.
  3. man gwyrdd, cymunedol. Yn seiliedig ar adborth ein hymgynghoriad â’r gymuned, buasem yn disgwyl i hyn gynnwys tyfu bwyd mewn gwelyau uchel, gardd goedwig gyda choed ffrwythau a chnau, ardal chwarae gwyllt gyda strwythurau helyg byw ac ardaloedd bywyd gwyllt. Bydd pob un o’r elfennau hyn yn cael eu cyd-ddylunio gyda phobl, ysgolion a grwpiau lleol.
  4. prosiectau a gwasanaethau dan arweiniad y gymuned. Gallai hyn gynnwys cadw ieir neu wenyn, gweithdai trwsio beiciau, oergell gymunedol, cronfa hadau neu offer, gwyliau lleol a llawer mwy.

Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, mae’r Sblot ac Waunadda ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae arolwg Mannau Agored Caerdydd hefyd yn dangos bod diffyg mannu agored yn y ddwy ward gan 19.5% (Waunadda) a 12.6% (Y Sblot) o gymharu â’r gofyniad safonol am fannau agored hamdden.

Mae’r ddwy ardal wedi colli mynediad at hyfforddiant, cefnogaeth a chyfleoedd am integreiddiad cymdeithasol yn dilyn diwedd ariannu Cymunedau’n Gyntaf yn gynharach yn 2018. Bu grŵp Edible Adamsdown hefyd golli eu gardd gymunedol boblogaidd pan i Ganolfan Adnoddau Cymunedau’n Gyntaf gau.

Bu trigolion Waunadda golli hyd yn oed mwy o’r ychydig fannau gwyrdd a oedd yn weddill pan werthwyd Gerddi Howard i adeiladu trydydd bloc o fflatiau myfyrwyr yn y ward.

Mae sbwriel, ymddygiad gwrthgymdeithasol a diffyg buddsoddiad mewn offer a chyfleusterau chwarae yn effeithio’n fawr ar barciau ac ardaloedd chwarae. Ar ben hyn, mae preswylwyr wedi goddef sŵn mawr, traffig ac aflonyddwch am sawl mlynedd yn ystod y gwaith ar y pontydd.

Yn seiliedig ar yr adborth a roddwyd yn y ddeiseb yr wythnos hon, mae’n glir beth mae’r gymuned eisiau gweld:

Sylwadau o’r gymuned:

‘Mae darparu mannau gwyrdd gwerthfawr ar gyfer y gymuned yn hynod bwysig, yn enwedig mewn mannau fel y Sblot ac Waunadda lle maen nhw wedi dioddef o ddiofalwch o ran mannau cymunedol a blaenoriaethu datblygiadau. Gwnewch y peth cywir Cyngor Caerdydd. Blaenoriaethwch eich pobl.’

‘Os nad yw’r penderfyniad hwn yn cael ei wrthdroi, bydd Cyngor Caerdydd yn siomi dinasyddion y ddinas hon trwy amddifadu preswylwyr o rywbeth sydd ei angen arnynt ac y maent wedi galw amdano. Ar ben hynny, mae’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ym mhob penderfyniad yn amlwg yn cael ei hanwybyddu yma.’

‘Mae mannau gwyrdd i dyfu, chwarae a dysgu yn hanfodol er llesiant. Bydd yn arbed arian yn y tymor hirach ac yn cefnogi trigolion ardaloedd difreintiedig iawn.’

‘Gyda Viridor mor agos, gellid dadlau bod yr ardal hon angen mwy o fannau gwyrdd na gweddill y ddinas, nid llai. Mae Green City wedi dylunio cynllun cynaliadwy a chyffrous ar gyfer y lleoliad, dylai Cyngor Caerdydd fod yn falch bod ganddynt dîm ymroddedig, uchelgeisiol yn gweithio gyda’r gymuned. Mae gennym ddinas anhygoel, lewyrchus. Mae angen i’r cyngor wrando.’

‘Byddai hwn yn gam mawr yn ôl – ac ymddengys ei fod yn gwrthddweud nifer o amcanion penodol; gan gynnwys statws dinas iachus a lleihau llygredd!’

‘Mae angen mannau cymunedol a mannau gwyrdd ar frys yn y Sblot ac Waunadda – nid rhagor o fflatiau mewn ardal sydd eisoes yn llawn dop gydag adeiladau! Mae’n drueni bod Cyngor Caerdydd wedi gwrthod prosiect anhygoel ar gyfer yr ardal hon a chymeradwyo datblygiadau adeiladu.  Mae’r ddinas yn llawn llety myfyrwyr, gyda’r rhan fwyaf dal yn wag.’

‘Mae mannau gwyrdd yn helpu iechyd meddwl, yn helpu i greu cydbwysedd rhwng strwythurau sy’n niweidiol i’r amgylchedd, megis y llosgydd gwastraff, ac yn dod â chymunedau ynghyd sy’n arwain yn anuniongyrchol at ostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnydd ym malchder preswylwyr yn yr ardal a dinasyddiaeth weithredol anfwriadol!’

‘Mae angen hwn ar y Sblot ac Waunadda. Byddai buddion hir dymor y prosiect hwn yn trechu unrhyw “elw” a ddaw o’r fflatiau.’

Cwmni Buddiannau Cymunedol yw Green City Events sy’n gweithredu yng Nghaerdydd a De Cymru. Dros y chwe mlynedd diwethaf mae Green City Events wedi bod yn gweithio ar draws Caerdydd i gynnig ymagwedd hygyrch a chynhwysfawr at ymgysylltu ar gynaladwyedd. Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi cyflwyno rhaglen eang o weithdai llwyddiannus a digwyddiadau dan arweiniad y gymuned ac wedi datblygu cysylltiadau cryf gyda chymunedau lleol a sefydliadau eraill.

Nod ein gwaith yw helpu adeiladu cymunedau cryf, gwydn gyda gwell cysylltiadau sydd ag ymwybyddiaeth a pharch ar gyfer awyrgylchoedd lleol a byd-eang. Rydym yn anelu at weithio’n uniongyrchol gyda chymunedau er mwyn ymateb i’w hanghenion a chreu gweithgareddau cynaliadwy dan arweiniad y gymuned sy’n cael effaith gadarnhaol hir dymor. Mae dau o’n cyfarwyddwyr, Rebecca Clark a Hannah Garcia, yn byw ar Stryd y Rheilffordd yn y Sblot ac mae’r ddwy ohonom wedi byw yn Waunadda yn y gorffennol. Rydym yn hoff iawn o’r ardal hon ac eisiau ei weld yn gwella a gwella.