Newyddion

Dau enwebiad am wobr i fan bwyd stryd y Sblot

Ar Ffordd Freshmoor fe welwch chi fan fach werdd yn dod â blas o Bortiwgal i’r Sblot. Yn adnabyddus am eu picado, brechdanau stêc a sglodion tatws melys, bydd Pregos Street Food yn ychwanegu ychydig o heulwen i’ch diwrnod!

Gŵr a gwraig sy’n rhedeg Pregos gyda’r ddau ohonynt yn mwynhau bwyd a choginio cymaint iddynt benderfynu troi eu brwdfrydedd yn yrfa. Mae hyn wedi talu pwyth, gyda Pregos Street Food yn derbyn enwebiad am ddwy wobr yn ddiweddar.

Roeddent ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Bwyty Bwyd Stryd y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwytai 2019, rhanbarth Cymru, ynghyd â Sticky Fingers Street Food, Chai Street, Mowgli Street Food, Poon’s Street Food (Caerfyrddin), The Lime Crab, The Canteen (Casnewydd), a Cafe Môr – Glan Môr Sir Benfro (Penfro).

Roeddent hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Bwyd Stryd y Flwyddyn a’r Gorau yn Ne Cymru yng Ngwobrau Bwyd Parod cyntaf Cymru 2019.

Bu perchnogion y busnes, Ally a Duarte, ddiolch i’w cwsmeriaid:

“Diolch yn fawr iawn i chi oll am eich cefnogaeth barhaus, ni fyddai modd i ni wneud hyn heboch chi!”

Pob lwc Ally a Duarte!  Rwyf wedi blasu eich bwyd hyfryd baswn i’n bendant yn pleidleisio drosoch chi!

Gallwch ddilyn Pregos ar Facebook Twitter (@Pregos_No1)

Gallwch ddod o hyd i Pregos ar Ffordd Freshmoor yn y Sblot (ger Ffordd Lewis sef lleoliad Marchnad y Sblot).

Mae Pregos ar agor dydd Llun i ddydd Sadwrn, 9pm – 2pm.

Gallwch ddarganfod mwy am Pregos Street Food yma.

Inksplott