Newyddion

Prosiect a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i lansio yn y Sblot, Tremorfa a Phengam Green

Prosiect newydd cyffrous yw Tyfu Sgwrs y Stryd ar gyfer pobl sy’n byw yn y Sblot a Grangetown i helpu trawsnewid ffrynt cartrefi yn yr ardal.

Bydd y prosiect yn cyflwyno amryw weithdai garddio ymarferol, yn dod â phobl leol ynghyd i wella eu gerddi ffrynt ac yn helpu i wneud strydoedd yn fwy gwyrdd, glân a chyfeillgar.

Beth am fod yn rhan o’r prosiect newydd cyffrous hwn!

Syniad Liz Court a Michele Fitzsimmons o’r Sblot yw Tyfu Sgwrs y Stryd, ac fe ddyfarnwyd £99,994 iddynt ym mis Mehefin i wella natur gymdogol, cysylltedd, gwirfoddoli a threfniadau cymunedol yn Grangetown a’r Sblot yng Nghaerdydd trwy weithio gyda phartneriaid ac aelodau’r gymuned i ddatblygu grwpiau o strydoedd penodol dan arweiniad y gymuned a rhoi’r gallu iddynt ddatblygu eu gerddi ffrynt i wneud y strydoedd lleol yn fwy gwyrdd.

Cadwch y Sblot yn Daclus yw un o bartneriaid y prosiect ac maen nhw’n hapus iawn i fod yn rhan ohono:

Dywedodd Lynne Thomas, Cadeirydd Cadwch y Sblot yn Daclus,

“Rydym wedi bod yn siarad am wneud hyn am sbel, a phan ymunodd Liz â ni i gasglu sbwriel, soniodd hi am brosiect Upfront Gardens, ac roedd yn swnio fel cyfle rhy dda i’w golli. Rydym wedi ymuno â’r prosiect ffantastig hwn fel partner i geisio gwyrddlasu tai y Sblot ychydig, hyd yn oed y tai teras heb erddi. Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o’r fenter ffantastig hon yn y Sblot a Grangetown. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.”

Gallwch ddysgu mwy yma

Dilynwch y prosiect ar gyfryngau cymdeithasol:

twitter.com/GST_TSyS

facebook.com/GST.TSyS

instagram.com/gst.tsys

Caiff Tyfu Sgwrs y Stryd ei redeg gan Gwmni Buddiannau Cymunedol UpFront Gardens, wedi’i gefnogi gan bartneriaid cymunedol Cadwch y Sblot yn Daclus, Clwb Garddio Pentre a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Inksplott