Newyddion

Dyfarnu cyllid i grŵp yn y Sblot i greu hyb gwyrdd, cymunedol ar dir segur

Mae prosiect i greu hyb cymunedol ar dir segur yn y Sblot ymhlith y cyntaf yng Nghymru i dderbyn cyfran o gronfa newydd a lansiwyd gan elusen y Co-op, The Co-op Foundation, i alluogi sefydliadau gyda ffocws cymunedol ac amgylcheddol i amddiffyn ardaloedd ac i ddod yn fwy cynaliadwy.

Mae’r Wiwer Werdd, sef Cwmni Buddiannau Cymunedol cofrestredig, wedi derbyn £10,000 i gefnogi ei waith i drawsnewid tua thraean o safle tir llwyd un erw y tu ôl i Stryd y Rheilffordd – cyn barc cyhoeddus sydd wedi bod yn segur am dros 10 mlynedd – yn le unigryw i fuddio’r gymuned leol.

Mae’r safle wedi cael ei roddi i’r grŵp gan Gyngor Caerdydd. Yn dilyn cyfres o ymgynghoriadau cymunedol, mae’r cynlluniau’n cael eu datblygu i greu man unigryw a fydd yn cynnig: man ar gyfer gweithdai a sesiynau hyfforddi; compostio; lle i dyfu bwyd; cefnogaeth ar gyfer bio-amrywiaeth; cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio, digwyddiadau dysgu yn yr awyr agored a man chwarae gwyllt ar gyfer plant.

Daw’r cyllid ychwanegol hwn o elw’r gost 5c i brynu bag siopa untro yn siopau bwyd y Co-op yng Nghymru, a nod y prosiect yw cefnogi trigolion y Sblot ac Waunadda, yn ogystal â’r sawl yn ardaloedd eraill o Gaerdydd sydd â diddordeb mewn ffordd o fyw sy’n cael llai o effaith ar yr amgylchedd.

Dywedodd Becca Clark o’r Wiwer Werdd:

“Rydym yn frwdfrydig dros wneud gwahaniaeth a dros greu’r hyb gwyrdd, cymunedol mae pobl leol ei eisiau ac yn ei haeddu. Mae tystiolaeth mai dyma un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda diffyg mannau agored a gyda pharciau ac ardaloedd chwarae llawn sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er hyn, rydym yn gwybod bod gan ein cymuned y sgiliau, haelioni a brwdfrydedd i sicrhau llwyddiant y prosiect hwn. Rydym wedi cael ein hysbrydoli gan nifer y cynigion o help a chefnogaeth gan bobl a sefydliadau lleol, ac mae’r cyllid hwn gan The Co-op Foundation wedi dod ar yr adeg berffaith i’n helpu i gymryd ein breuddwydion ac uchelgeisiau i’r lefel nesaf.”

Yn gynharach eleni, gwahoddwyd grwpiau yng Nghymru i wneud cais am grantiau i archwilio syniadau mentrus a allai gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer eu man cymunedol, ennyn diddordeb pobl leol a chefnogi’r amgylchedd. Y Wiwer Werdd yw un o 10 sefydliad ledled Cymru i dderbyn cefnogaeth yn y chwe mis cyntaf o’r ariannu.

Dyma Jim Cooke, Pennaeth The Co-op Foundation, i esbonio:

“Mae mannau gwyrdd yn dod â chymunedau at ei gilydd ac yn gwella llesiant pobl, yn ogystal â chyfrannu at amgylchedd mwy cynaliadwy i bawb. Rydym yn falch iawn o gefnogi prosiectau fel hyn gan helpu mudiadau cymunedol ledled Cymru i gymryd eu camau nesaf i amddiffyn neu wella mannau lleol sy’n agos at galonnau pobl.”

Mae’r ariannu yn rhan o ymgyrch ehangach Mannau Mewn Perygl y Co-op i gefnogi 2,000 man cymunedol sydd mewn perygl. Gall mudiadau cymunedol sydd eisiau datblygu eu syniadau busnes i roi hwb i’w gweithgareddau masnachu wneud cais am fenthyciad di-log trwy The Co-op Foundation. Gallwch ddarllen mwy ar www.coopfoundation.org.uk

Dywedodd y Cynghorydd Jane Henshaw:

“Rwy’n hynod falch bod y Co-op yn gweld gwerth prosiect Stryd y Rheilffordd. Rwy’n rhannu eu hyder bod hwn yn gyfle cyffrous i ailfeddwl ac ail-lunio mannau gwaith. Rwy’n arbennig o falch bod hwn yn ymateb sy’n ffocysu ar ddatrysiad i Argyfwng yr Hinsawdd a ddatganwyd yng Nghaerdydd. Mae’n gyfle gwych hefyd i newid i ddilyn economeg llesiant er mwyn i ni allu mesur beth sy’n bwysig, yn benodol, amddifadiad, cydlyniad cymunedol ac effaith amgylcheddol.” 

Ychwanegodd y Cynghorydd Owen Llewellyn Jones:

“Mae hwn yn brosiect anhygoel a fydd yn buddio pobl ar ddwy ochr y rheilffordd yn y Sblot ac Waunadda. Rwy’n gwybod bod ymdeimlad cryf o gymuned yn y ddwy ward yma ac mae’n wych bod y Cyngor wedi rhoddi’r darn hwn o dir iddynt yn hytrach nag adeiladu mwy o dai. Rydym wedi gweld prosiectau tebyg yn ffynnu mewn ardaloedd eraill o’r ddinas, felly mae’n ffantastig cael un yn yr ardal hon hefyd.” 

Gall grwpiau cymunedol yng Nghymru sydd am ddatblygu eu gweithgareddau masnachu i gefnogi man sy’n buddio’r amgylchedd wneud cais am fenthyciad di-log o hyd at £50,000. Gallwch ddarllen mwy ar www.coopfoundation.org.uk

Am wybodaeth ar fuddion bod yn aelod o’r Co-op, ewch i coop.co.uk/membership

I ddysgu mwy am brosiect Stryd y Rheilffordd, neu i ddangos eich cefnogaeth neu gymryd rhan, ewch i: https://www.railwaystreet.co.uk/

Inksplott