Newyddion

Girls Together Splott yn lansio sesiwn rhedeg i ddechreuwyr

Mae’r grŵp lleol, Girls Together Splott, wedi cyflawni pethau gwych dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gydag aelodau’n cymryd rhan mewn marathonau a nifer mewn ras sy’n llai na…a bod yn onest, does gen i ddim syniad beth yw hyd marathon! Ond, rwy’n gwybod bod y merched hyn yn wych ac yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom!

Erbyn hyn mae’r grŵp wedi lansio sesiwn ar gyfer rhedwyr newydd ac maen nhw’n annog pobl heb brofiad o redeg, neu ag ychydig o brofiad yn unig, i ymuno â nhw bob nos Iau i ymestyn eu coesau a rhoi cynnig ar redeg, gweithgaredd y mae nifer o bobl yn ei fwynhau.

Mae’r grŵp rhedeg i ddechreuwyr yn cwrdd bob nos Iau y tu allan i Hen Lyfrgell y Sblot ar Ffordd Singleton am 6.15pm i gynhesu cyn gwneud rhai lapiau o amgylch Parc Moorland. Mae’r rhedwyr sydd am symud ymlaen i’r grŵp mwy profiadol yn mynd ymhellach ar lwybr tuag at bae.

Mae arweinwyr y grŵp yn brofiadol ac yn hyfryd: darllenwch fwy mewn cyfweliad blaenorol ar Incsblot yma.

Dilynwch y merched ar Twitter am ragor o wybodaeth.