Newyddion

Tyfu Sgwrs y Stryd yn dathlu Un Flwyddyn yn y Sblot!

Bu prosiect a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol i wyrddlasu ffrynt tai yn y Sblot a Grangetown ddathlu ei blwyddyn gyntaf lwyddiannus ym mis Hydref.

Prosiect cyffrous i helpu trawsnewid ffrynt tai yn yr ardaloedd hynny yw Tyfu Sgwrs y Stryd a bu’r menywod y tu ôl i’r fenter werdd gynnal digwyddiad i ddathlu’r flwyddyn gyntaf ym mis Hydref yn yr Hen Lyfrgell ar Ffordd Singleton, yn y Sblot.

Dywedodd Liz a Michelle:

“Dydyn ni methu credu bod blwyddyn wedi mynd heibio ers lansio Tyfu Sgwrs y Stryd! Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu ein blwyddyn gyntaf ac i ddangos uchafbwyntiau o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni!”

Mae’r prosiect wedi bod yn cyflwyno amrediad o weithdai garddio ymarferol, gan ddod â phobl leol ynghyd i wella eu gerddi ffrynt a helpu i wneud y strydoedd yn fwy gwyrdd, glân a chyfeillgar.

Ymhlith y gweithdai roedd tyfu perlysiau, ffrwythau, blodau a llysiau a gwneud bocsys a phlanwyr ffenestri.

Gallwch gysylltu â’r tîm ar growingstreettalk@gmail.com.

Dysgwch fwy am y prosiect trwy eu dilyn ar Facebook https://www.facebook.com/GST.TSyS/ neu Twitter https://twitter.com/GST_TSyS

Inksplott