Newyddion

Gwirfoddoli yn y Sblot yn 1972

Mae’r fideo hyfryd hwn gan VCS Cymru yn cipio ymdrechion grŵp o wirfoddolwyr yn ystod haf 1972 wrth iddyn nhw helpu plant ledled Caerdydd i adeiladu eu hiardiau chwarae eu hunain.

O safbwynt y Sblot, mae’r fideo yn weddol ingol, yn cynnwys parti stryd yn ne’r Sblot mewn stryd a gafodd ei ddymchwel yn ddiweddarach i wneud lle ar gyfer datblygiad diwydiannol.

Dangoswyd y fideo yn ddiweddar yn lansiad prosiect Chronicle sy’n ceisio ymchwilio i hanes gwirfoddoli yn arc ddeheuol Caerdydd rhwng 1914 a 2014.

Am ragor o wybodaeth ar brosiect Chronicle, cysylltwch â Klavdija Erzen ar 029 20 227625 neu e-bostiwch klavdija.e@vcscymru.org.uk

Inksplott