Y Sblot

Ystadegau am Y Sblot

Poblogaeth

Yn ôl cyfrifiad 2011, mae 13,261 o bobl yn byw yn y Sblot, sy’n golygu mai dyma un o wardiau lleiaf Caerdydd sy’n gartref i ffracsiwn o’r 346,090 o bobl sy’n byw yn y ddinas. Mae hwn yn gynnydd o 1,187 o bobl mewn deng mlynedd, i fyny o 12,074 yn ôl cyfrifiad 2001.

Mae Waunadda drws nesaf yn llai fyth gyda phoblogaeth o 10,371, ac ar ochr arall y Taf. Grangetown yw un o’r wardiau mwyaf gyda 19,385 o drigolion.

Mae’r ganran uchaf o drigolion y Sblot rhwng 30-44 mlwydd oed (24.6%), y nesaf 45-59 mlwydd oed (17%) a 25-29 mlwydd oed (10.6%).

Mae 5,683 aelwyd yn y Sblot, eto yn ôl data cyfrifiad 2011.

Ardal

Mae ward etholiadol y Sblot yn Nwyrain Caerdydd ac mae’n rhan o arc ddeheuol Caerdydd. Mae’r Sblot yn ffinio â Waunadda i’r Gogledd, Butetown i’r Gorllewin a Thredelerch i’r Dwyrain. Mae cyrion y Sblot hefyd yn cyffwrdd Penylan a Trowbridge.

Hanes

Adeiladwyd y Sblot ar ddiwedd y 19eg ganrif ar dir dwy fferm o’r enw Sblot Uchaf a Sblot Isaf.

Nodweddion

Mae’r Sblot yn enwog am weithfeydd dur, ponciau arafu a marchnad y Sblot

Prisiau Tai

Yn ôl Zoopla, pris tŷ ar gyfartaledd yn y Sblot yw tua £161,000

Inksplott