Newyddion

Newidiadau i gasgliadau sbwriel yn ystod cyfyngiadau COVID-19

Mae Caerdydd yn symud i drefn newydd wythnosol o gasglu gwastraff ymyl y ffordd a bydd yr holl wastraff cartref (ac eithrio gwastraff gardd) yn cael ei gasglu ar yr un pryd. 

Bydd y diwrnodau casglu ar gyfer eich ardal yn aros yr un fath, ond mae’r ffordd y caiff gwastraff ei drin yn newid i helpu i reoli effaith COVID-19 a sicrhau lles y preswylwyr a’r gweithlu.

O ddydd Llun, 30 Mawrth, mae’n rhaid i’r holl breswylwyr sydd â biniau olwynion du roi eu gwastraff bwyd a’u gwastraff hylendid (cewynnau/gwastraff meddygol ac ati) yn y bin du i’w casglu. Peidiwch â defnyddio eich cadi bwyd. Bydd y casgliadau yn digwydd ar y diwrnod arferol ar gyfer eich ardal.

Mae’n rhaid i breswylwyr sy’n byw mewn ardaloedd heb finiau olwynion du roi’r gwastraff hylendid (cewynnau/gwastraff meddygol ac ati) yn eu bagiau streipiau coch ar gyfer gwastraff cyffredinol. Dylai’r gwastraff bwyd mewn ardaloedd â bagiau barhau i gael ei roi yn eich cadi bwyd i atal anifeiliaid ac adar rhag gwasgaru gwastraff ar hyd y strydoedd.

Bydd casgliadau ailgylchu yn parhau yn ôl yr arfer a dylid rhoi bagiau ailgylchu allan yn wythnosol ar yr un pryd â’r gwastraff arall.

Gofynnir i’r holl breswylwyr, ble bynnag y maent yn byw yng Nghaerdydd, i barhau i ailgylchu fel arfer, gan olchi eu hailgylchu a rhoi’r deunyddiau ailgylchu cywir yn eu bagiau ailgylchu gwyrdd. Mae tudalen A-Y o Ailgylchu’r cyngor ar gael yma https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd: 

“Rydyn ni’n credu y bydd y system newydd hon yn ein galluogi i gadw’r strydoedd yn lân drwy gydol y sefyllfa COVID-19, hyd yn oed os gwelwn ostyngiadau yn nifer y criw wrth i bobl gael amser i ffwrdd i wella o’r feirws.

“Mae’n hynod bwysig bod preswylwyr yn ein helpu ni i wneud hyn yn iawn drwy gydymffurfio â’r trefniadau newydd. Maen nhw wedi cael eu cynllunio i’n galluogi ni i redeg gwasanaeth llawn gyda gweithlu llai.”

Gan y caiff gwastraff cyffredinol ei gasglu’n wythnosol nawr yn hytrach na phob pythefnos, nid yw’r cyngor yn disgwyl gweld biniau du yn gorlifo neu wastraff cyffredinol gormodol wedi ei adael wrth ochr y biniau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael:

“Byddem yn disgwyl casglu dim ond y gwastraff y byddai aelwyd arferol yn ei gynhyrchu mewn wythnos.

“Mae’n hollol bwysig nad yw pobl yn ceisio manteisio ar y system newydd a gadael pethau allan na allant eu cludo i’r CAGCau yr oedd rhaid i ni eu cau oherwydd bod rhaid cadw pellter cymdeithasol.

“Rydym ni wedi gosod system fydd yn gweithio os yw pobl yn dilyn yr argymhellion. Rwy’n gwybod bod y mwyafrif ohonon ni eisiau cadw ein dinas yn lân drwy gydol yr argyfwng, felly gwnewch eich rhan i helpu. Rwy’n gwybod bydd y rhan fwyaf ohonoch chi’n gwneud hyn.”

Mae casgliadau gwastraff swmpus a gwastraff gardd gwyrdd wedi eu hatal nes bydd yr argyfwng wedi dod i ben. Bydd atal y gwasanaethau hyn yn helpu’r Cyngor i ddefnyddio’r gweithlu i gadw ein strydoedd yn lân.

I symleiddio’r gweithrediadau gwastraff a sicrhau y gallant barhau gyda gweithlu llai, efallai na fydd yn bosib i ni ddidoli gwastraff ailgylchadwy yn ystod yr argyfwng, fel y cyfryw, bydd yn mynd i’r gwaith troi gwastraff yn ynni ynghyd â’r gwastraff gweddilliol. Dyma’r ffordd ddiogelaf o waredu gwastraff a all gludo Covid-19.

Fodd bynnag, er ei bod yn ymddangos yn rhyfedd, rydyn ni’n dal angen i chi rhoi eich deunyddiau ailgylchu yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd fel y gallwn ddychwelyd i ailgylchu gwastraff pan fyddwn yn gallu.

Hefyd, os nad ydych yn golchi a gwahanu eich bagiau gwyrdd, bydd anifeiliaid ac adar yn eu torri ac yn gwasgaru’r gwastraff ar y strydoedd. Gyda gweithlu llai, bydd yn eithriadol o anodd i ni reoli a glanhau hyn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael:

“Rydyn ni’n gwybod y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn gwneud y peth iawn, ond mae angen i chi i gyd wneud y peth iawn, ar gyfer eich dinas, eich cymdogion, ac ar gyfer eich iechyd ac iechyd eich teulu.

“Rydyn ni hefyd yn gofyn i chi lanhau handlenni eich biniau â diheintydd yn ystod yr argyfwng er eich diogelwch chi a diogelwch ein staff.

“Gwnewch eich rhan, os gwelwch yn dda, i’n helpu ni i atal y feirws. Cofiwch ei ddal, ei daflu a’i ddifa.”

Mae bagiau ailgylchu gwyrdd yn parhau i fod ar gael yn y pedwar prif hyb, sef Hyb y Llyfrgell Ganolog, y Powerhouse yn Llanedern, Hyb Llaneirwg a Hyb Trelái. Gallwch hefyd eu harchebu ar-lein yma https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Archebwch-bagiau-bwyd-ac-ailgylchu/Pages/default.aspx ac rydym yn adleoli staff i gyflymu danfoniadau i aelwydydd. Gofynnwn am eich amynedd yn yr amgylchiadau wrth i ni wneud ein gorau glas i ddod â bagiau i chi.

Inksplott