Newyddion

Tasg enfawr ar gyfer un fenyw benderfynol o’r Sblot

Roedd un fenyw leol, Kerrie Aldridge, yn edrych ymlaen at redeg marathon Llundain eleni i godi arian ar gyfer ei dewis elusen, The Miscarriage Association.

Pan gafodd y ras ei chanslo oherwydd pandemig y Coronafeirws, roedd Kerrie yn benderfynol na fyddai hynny yn ei stopio hi; penderfynodd hi redeg 26 milltir y marathon o amgylch ei chymdogaeth yn y Sblot a dyna’n union beth wnaeth hi, gan gwblhau ei “Sblotathon” ei hun.

Dywedodd Kerrie wrth Incsblot:

“Rwy’n gwybod bod y coronafeirws wedi newid bywydau pawb ac wedi bod yn hynod anodd ar y sawl sydd wedi colli anwyliaid i’r feirws ofnadwy hwn. Mae gweld enfysau pawb wedi bod yn ingol i mi gan fod enfysau wedi bod yn symbol arbennig yn fy mywyd am sbel.

Mae enfys yn dynodi gobaith, cariad a golau ar ôl storm ac mae fy mab bendigedig, Osian, yn fabi enfys… babi a aned ar ôl colled.

Mae darllen yr holl gyfyngiadau mewn ysbytai ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn sgil y coronafeirws, e.e. menywod yn gorfod mynd am sganiau ar eu pennau eu hunain, wedi gwneud i mi deimlo’n emosiynol braidd.

Wrth adlewyrchu ar fy mhrofiadau fy hun o gamesgoriad, roeddwn yn teimlo llawer o dristwch wrth i mi feddwl am fenywod a allai fod yn mynd trwy hyn yn ystod y pandemig;  gorfod mynychu sgan ar eu pennau eu hunain, methu â derbyn cefnogaeth gorfforol gan eu partneriaid nac aelodau agor eu teulu, tra’n wynebu sefyllfa erchyll o golli eu babi. 

Mae camesgoriad yn parhau i fod yn bwnc tabŵ ond ar hyn o bryd mae’n bwysicach nag erioed bod menywod yn gwybod bod yna bobl sy’n gallu helpu. Dyma le mae elusennau / sefydliadau fel The Miscarriage Association yn gallu helpu gyda chefnogaeth dros y ffôn ac ar-lein.

Fel nifer o elusennau, mae COVID 19 yn effeithio incwm The Miscarriage Association, gyda nifer o ddigwyddiadau codi arian a oedd ar y gweill wedi’u canslo neu aildrefnu. Ond pan fod menywod yn gorfod mynychu sganiau a thriniaeth ddilynol ar eu pennau eu hunain, mae eu gwasanaethau’n hanfodol.

Dyna pam ro’n i’n benderfynol o gwblhau’r 26.2 milltir y baswn i wedi’u gwneud ar 26 Ebrill, diwrnod marathon Llundain. Rwy’n gwybod bod nifer o geisiadau ar gyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd am arian ar gyfer elusennau’r GIG a nifer o achosion da eraill ond os oes unrhyw un yn gallu sbario rhywfaint, baswn i’n ei gwerthfawrogi’n fawr … byddai’n help mawr i gefnogi’r mamau a thadau hynny sy’n wynebu un o gyfnodau anoddaf eu bywydau ar hyn o bryd.”

Rhedodd Kerrie nifer o lapiau o amgylch y Sblot i gyrraedd ei tharged o 26 milltir, gan gwblhau nifer o lapiau bob dydd a phostio ei chynnydd ar gyfryngau cymdeithasol. Dilynwch Kerrie ar Twitter – @Kez_A79

Siaradodd hi â BBC Cymru yn ddiweddar am ei phrofiad: https://www.bbc.co.uk/news/av/uk-wales-52428120/london-marathon-runner-takes-on-the-splottathon-instead   

Ychwanegodd Kerrie £175 at y cyfanswm a godwyd ganddi ar gyfer The Miscarriage Association gan redeg o amgylch y Sblot yn ystod un o wythnosau cynhesaf y flwyddyn. Dywedodd hi:

“Wel am wythnos boeth, ond dwi wedi mwynhau – jyst yn trio gwneud beth dwi’n gallu.”

Mae Kerrie wedi codi £2,789 ar gyfer The Miscarriage Association ac mae hi ond £201 i ffwrdd o  gyrraedd ei tharged o £3,000. Gallwch gefnogi Kerrie, ei helpu i gyrraedd ei tharged a rhoddi i The Miscarriage Association yma:

https://uk.virginmoneygiving.com/fundraiser-display/showROFundraiserPage?userUrl=KerrieAldridge&pageUrl=2

Inksplott