Dan Sylw

PRESWYLWYR YN GALW AM WELLIANNAU DIOGELWCH AR Y DAITH I’R YSGOL

Pan symudodd Ysgol Glan Morfa o ardal dawel Stryd Hinton i’r prysur Ffordd Lewis, sicrhawyd rhieni y byddai mesurau teithio gweithredol a diogelwch traffig ffyrdd yn cael eu rhoi ar waith.

Gosodwyd tair croesfan sebra newydd ac ardaloedd zig-zag dim parcio, ond mae rhieni’n poeni bod pobl yn torri’r rheolau ac yn rhoi teuluoedd mewn perygl. 

Fe bostiodd Leo Garcia, un o drigolion y Sblot, gyfres o luniau ar Twitter yr wythnos hon yn dangos ceir wedi’u parcio wrth ymyl y croesfannau ar yr ardaloedd zig-zag gwyn ac ar y palmant gyferbyn â’r ysgol a gofynnodd i Heddlu De Cymru a allent helpu.

Ymatebodd Cyngor Caerdydd a chynghori y byddai car camera yn y lleoliad y bore canlynol i atal/gorfodi unrhyw droseddau pellach, ond ni ymddangosodd y car y tu allan i’r ysgol yn ystod taith ysgol y bore hwnnw.

Cododd un o drigolion eraill y Sblot bryderon y bore yma hefyd ynglŷn â gyrwyr yn parcio ar balmentydd ar hyd Ffordd Lewis gan sôn am ddigwyddiad gyda char a oedd yn agos iawn at fod yn ddamwain:

Mynegodd cynghorydd y Sblot, Huw Thomas, ei siom ynghylch rhieni’n parcio’n anghyfreithlon yn agos at yr ysgol ac mae wedi gofyn i swyddogion y Cyngor weithredu:

“Fel Llywodraethwr yn Ysgol Glan Morfa, mae’n bryder ac yn siom bod gyrwyr yn parcio’n anghyfreithlon o amgylch y groesfan sebra ar Ffordd Lewis.  Yn anffodus, mae’n ymddangos mai rhieni Glan Morfa yw rhai o’r bobl sy’n gwneud hyn. Mae’n peri penbleth a dweud y gwir y byddent yn gwneud rhywbeth sy’n peryglu eu plant eu hunain, ac eraill. Mae’r Cyngor wedi buddsoddi’n helaeth mewn llwybrau diogel i’r ysgol, ac mae trefniant ar waith i rieni ddefnyddio Maes Parcio Lidl os oes rhaid iddynt yrru. Byddwn yn annog pob gyrrwr i gadw at y rheolau traffig a pharcio – mae hyn yn arbennig o bwysig pan fod angen i bobl cadw pellter cymdeithasol ar y palmant.  Rwyf wedi gofyn i swyddogion y Cyngor gynyddu camau gorfodi yn yr ardal, a byddwn hefyd yn edrych ar gyfyngu parcio ymhellach ar Ffordd Lewis.” 

Mae’r ardaloedd zig-zag gwyn yn cael eu gorfodi gan y cyngor a’r heddlu lleol. Gallai gadael cerbyd mewn lleoliad peryglus (cod MS10) arwain at 3 phwynt cosb, a fyddai’n aros ar eich trwydded am bedair blynedd ac yn rhoi dirwy fawr i chi.

Cododd un o drigolion Waunadda, Sian, fater diogelwch arall mewn ymateb i neges drydar Leo, gan ofyn bod rhywbeth yn cael ei wneud am y groesfan sebra ar ddiwedd Stryd Dwyreiniol Tyndall. Dyma ddywedodd hi:

“Diolch am dynnu sylw at hyn Leo. Byddai’n wych pe bai modd edrych ar y groesfan y tu allan i’r Maltings ar Stryd Dwyreiniol Tyndall hefyd – mae’r traffig sy’n dod i fyny i’r gyffordd yn aml yn stopio ar y groesfan, neu mor brysur yn edrych i weld a allan nhw fynd, dydyn nhw ddim yn stopio hyd yn oed os oes plant ar y groesfan”

Treuliais lai na munud lle roeddwn yn gallu gweld y groesfan y bore yma a gwelais ddwy fan a char yn stopio ar y groesfan ei hun.

Dywedodd preswylydd y Sblot ac Ysgrifennydd Cadw Splott Tidy, Louise Clarke, ar Twitter:

“Fel cerddwr a gyrrwr mae’r groesfan hon mor beryglus! Mae’r groesfan mewn lleoliad ofnadwy. Os ydych chi’n gerddwr sy’n sefyll wrth y rheiliau, mae’r rheiliau’n rhwystro golygfa gyrrwr fel bod y cerddwr wedi’i guddio. Rwyf wedi codi hyn yng nghyfarfod Heddlu a Chymunedau Gyda’i Gilydd.”

Yn ystod gwyliau’r haf, tynnodd Arianwen, merch saith oed Sian, lun ei llwybr i’r ysgol, gan nodi’r pwyntiau perygl a thynnu sylw at y ffaith nad yw ceir bob amser yn stopio ar y groesfan:

Dywedodd Andy Regan, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Glan Morfa:

“Mae dau fater diogelwch yma – croesfan Stryd Dwyreiniol Tyndall a pharcio’n anghyfreithlon ar Ffordd Lewis.

“Gofynnodd llywodraethwyr yr ysgol y llynedd i’r warden croesi gael ei symud i gwmpasu’r groesfan fwy peryglus ar gornel Maltings, a gwnaed hyn. Rwyf bellach wedi gofyn i’r cyngor ailgyflwyno hynny.

“Y llall yw parcio y tu allan i’r ysgol. Rydym yn deall bod hi’n bosib bod y trefniadau newydd oherwydd Covid-19 fod yn gwneud taith pobl i’r ysgol yn fwy cymhleth, ond mae’r sefyllfa bresennol yn beryglus i blant yn yr ysgol.

“Atgoffwyd pob rhiant o’r angen i barcio’n ddiogel a bod gennym gytundeb â Lidl sydd wedi bod yn ddigon caredig i ddweud bod rhieni a gwarcheidwaid Glan Morfa yn gallu defnyddio eu maes parcio yn y boreau ar gyfer y daith i’r ysgol. Felly, baswn yn annog pobl i gychwyn ychydig funudau ynghynt i barcio yn Lidl, a helpu i gadw’r ffordd y tu allan i’r ysgol yn glir ac yn ddiogel.”

Inksplott