Dan Sylw

CYNGOR CAERDYDD YN ADDO STRYDOEDD GLANACH

Bydd Caerdydd yn elwa o strydoedd glanach o dan gynlluniau newydd i newid y ffordd y cesglir gwastraff a deunyddiau ailgylchadwy ar draws y ddinas.

O dan y drefn newydd bydd y Cyngor yn mabwysiadu model casglu un sifft pedwar diwrnod yr wythnos. Bydd hyn yn galluogi casgliadau rhwng 6am a 3.45pm ar ddyddiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener.

Bydd pob casgliad preswyl o ailgylchu, gwastraff bwyd a gwastraff cyffredinol ar ddydd Llun yn dod i ben.

Dywed Cyngor Caerdydd y bydd cyflwyno rowndiau casglu newydd ar draws y ddinas yn arwain at:

• Gasgliadau gwastraff ac ailgylchu’r strydoedd erbyn 3.45pm;

• Strydoedd glanach; a

• Diwedd y dryswch i breswylwyr pan fydd diwrnodau casglu yn cael eu gwthio i’r diwrnod nesaf ar wythnosau Gŵyl y Banc.

Disgwylir i’r system newydd fod ar waith erbyn mis Chwefror 2021. Bydd yn golygu y bydd yn rhaid ail-gydbwyso rowndiau casglu ar draws y ddinas gyda thua 85,000 cartref yn gweld newidiadau i’w diwrnodau casglu presennol.

Beth mae’n ei olygu i Waunadda a’r Sblot

Dim llawer! Yn ôl y tabl o newidiadau a gyhoeddwyd, bydd ein gwastraff yn dal i gael ei gasglu ar ddydd Iau. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd angen casglu gwastraff rhai strydoedd yn y Sblot ar ddiwrnod gwahanol i weddill yr ardal er effeithlonrwydd gweithredol. Bydd unrhyw gartrefi y mae’r newidiadau’n effeithio arnynt yn cael gwybod drwy lythyr.

Mae disgwyl i’r newidiadau i ddiwrnodau casglu gychwyn ym mis Chwefror 2021 – Dyddiadau terfynol i’w cyhoeddi.

Bydd preswylwyr yn cael gwybod am union fanylion y newidiadau drwy lythyr ym mis Ionawr.  Bydd gwybodaeth ar gael bryd hynny hefyd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y cyngor, ar wefan y cyngor ac ar ap y cyngor.

Bydd y cynllun cyfathrebu yn gweld preswylwyr yn derbyn:

• Llythyr i bob cartref yn esbonio pam fod y newidiadau’n digwydd a’r hyn mae’n ei olygu i’w diwrnod casglu.

• Taflen yn atgoffa preswylwyr o’r eitemau cywir i’w rhoi mewn bagiau ailgylchu gwyrdd/cynwysyddion gwastraff gardd

• Cerdyn gyda gwybodaeth am y newidiadau y gall y preswylydd eu cadw i’w pinio ar hysbysfwrdd neu eu rhoi yn y cartref i’ch atgoffa

• Cyfryngau cymdeithasol wedi’u targedu ar draws y ddinas a straeon ar wefannau’r cyngor

• Gwybodaeth am y newidiadau ym mhob un o’r hybiau

• Gwybodaeth ddigidol ar wefan Caerdydd, Ap Gov Caerdydd, ac ar sgyrsfot ar-lein y cyngor.

Dwedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu:

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu gwneud y newid hwn ac rwyf am ddiolch i’r Undebau a’n staff sydd wedi cytuno i’r trefniant newydd.  Maent wedi gwneud gwaith rhagorol yn cadw’r ddinas yn lân drwy’r pandemig, ond gwyddom y bydd y system newydd hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n trigolion ac y bydd yn gwella golwg strydoedd a glendid ar draws y ddinas.

“Ar hyn o bryd mae casgliadau’n rhedeg rhwng 6am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae honno’n ffenestr enfawr i wastraff fod allan ar y stryd, pan all gwylanod neu blâu ymosod arno. Bydd y system gasglu newydd hon yn gweld gwastraff oddi ar y stryd cyn 3.45pm ar y pedwar diwrnod yr wythnos y byddwn yn ei gasglu. Bydd pobl yn dychwelyd adref o’r gwaith i strydoedd glanach heb fagiau na gwastraff allan ar y stryd. Dylai wneud gwahaniaeth enfawr ar draws y ddinas.”

Er mwyn gwneud i’r system gasglu newydd weithio bydd angen 24 o lorïau sbwriel ychwanegol. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn rhedeg 39 ond bydd y fflyd yn awr yn cynyddu i 68, gan gynnwys cerbydau wrth gefn.

Inksplott