Newyddion

Sêr y Sblot!

Yn ddiweddar, gofynnodd Incsblot i bobl y Sblot enwebu eu Sêr y Sblot; pobl sydd wedi mynd y tu hwnt i’r galw iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn. Wel, Sblot, dydych chi heb ein siomi! Derbyniwyd llwythi o enwebiadau.

Dyma nhw (yn nhrefn yr wyddor):

Amy Barry

Dywedodd David Price:

“Amy Barry –  am wau llawer o fandiau amddiffyn masgiau i stopio’r elastig ynddyn nhw rhag anafu pennau’r nyrsys a doctoriaid.”

Camilla Lovelace Tutor

Sian Edwards enwebodd Camilla:

“Yn bendant Camilla Lovelace Tutor a’r grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig sy’n cynnal a chadw gardd gymunedol a rhandir y Sblot. Mae Camilla wedi bod yn hynod o garedig yn dod â hadau, potiau, planhigion a chyflenwadau garddio i ni i gadw fy machgen bach yn hapus ac yn brysur.”

Mae James Caruana yn cytuno:

“Hoffwn eilio hwn! Gwir arwres y Sblot! Dydw i ddim yn credu bod diwrnod yn mynd heibio pan nad yw Camilla yn gwirfoddoli i sicrhau bod y Sblot yn lle hyfryd i fyw!”

Staff Co-Op Ffordd Sblot

Enwebwyd staff siop Co-op Ffordd Sblot gan dri pherson am eu hagwedd a gwasanaeth anhygoel i’r gymuned yn ystod y pandemig:

Dywedodd Kate Owen:

“Hoffwn enwebu staff Co-op Ffordd Sblot.  Maen nhw wedi bod yn wych, yn gweithio mor galed mewn amgylchiadau anodd iawn, ac yn gwneud hynny gyda gwên.”

Mae Ewan Hilton yn cefnogi hyn:

“Yr holl bobl hyfryd sy’n gweithio yn Co-op y Sblot.”

Gyda Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot yn ychwanegu:

“Tom a’i staff yn Co-op Ffordd Sblot”.

Fred ac Angela Bullard

Roedd Old Illts Minis eisiau enwebu’r cwpl y tu ôl i fudiad Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot sy’n rhedeg clybiau brecwast a digwyddiadau cymunedol yn y Sblot.

Roedd Sara Jones hefyd eisiau enwebu Fred ac Angela Bullard am eu holl waith caled yn y gymuned.

Edrychwch ar yr adran sylwadau isod am ragor y gwaith anhygoel a wneir gan Fred ac Angela…

Hannah a Becca o’r Wiwer Werdd

Dywedodd Sarah Stephens

“Becca o’r Wiwer Werdd a Hannah sy’n gweithio’n galed i gadw hwyliau’r gymuned i fyny ac Incsblot hefyd x” (wel, diolch yn fawr!).

Roedd Deborah Isis Hoade yn cytuno:

“Enwebiad arall i Becca a Hannah o’r Wiwer Werdd, maen nhw’n gwneud cymaint dros y gymuned. Rhaid sôn hefyd am Vicky McClure a’i sylwadau hynod ddifyr ar Facebook – rwy’n gobeithio bydd dy ddarpar ŵr yn cyrraedd yn fuan!”

Dywedodd Jim Tulloh:

“Yn bendant Rebecca Clarke a Hannah Garcia o’r Wiwer Werdd sy’n anfon blodau a llysiau ar draws yr holl ardal ac sy’n gweithio’n ddi-baid dros y Sblot a’r gymuned ehangach.”

Ategwyd yr argymhelliad hwn gan Jenny Allen Poe.

Cafodd Hannah Garcia o’r Wiwer Werdd rhai enwebiadau ei hun hefyd:

Dywedodd Louise Clarke:

“Rwy’n credu bod angen rhoi cydnabyddiaeth arbennig i Hannah Garcia am sefydlu Grŵp Cyd-gefnogaeth Covid-19 y Sblot/Waunadda a hefyd am ganiatáu i ni gasglu blodau a achubwyd gan @BeMoreSquirrel a fyddai’n sicr wedi marw fel arall.”

Ychwanegodd Rebecca Clarke:

“Hannah Garcia yn bendant! Mae hi’n gwneud cymaint y tu ôl i’r llenni dros ein hardal leol – a beth am y partïon coed hefyd!

Dywedodd Tamsin Stirling:

“Hoffwn enwebu Hannah Garcia am ei holl waith gyda grŵp cyd-gymorth y Sblot ac Waunadda – sefydlu systemau, cydlynu, anogaeth, sicrhau fod y bobl sydd angen cymorth yn ei derbyn ac mae ganddi sgiliau dylunio gwych hefyd.”

Dywedodd Lauren Williams:

“Hannah! (Chi’n gwybod pwy…) am gydlynu grŵp cyd-gymorth y Sblot ac Waunadda mewn modd mor effeithlon!”

James Elliott

Bu Lisa Challoner, Martin Ones a Becca Griffiths oll enwebu James Elliott ar gyfer:

“fy nifyrru gyda’i straeon diddorol! Mae hefyd yn fy helpu i deimlo bod fy alcoholiaeth yn normal yn ystod y cyfnod hwn xx

Joanne Louise Robinson

Dywedodd Michelle Moor:

“Hoffwn enwebu Joanne Louise Robinson am helpu rhieni ei dosbarth yn Ysgol Gynradd Llanedern, i gadw’r plant yn brysur gyda gwaith cartref a thasgau hwylus pan maen nhw i ffwrdd o’r ysgol. Mae hi hefyd wedi gwneud fideo hyfryd o blant ysgol Baden Powell ar gyfer yr athrawon. Mam wych i’w bechgyn 5 mlwydd a 21 mis oed er bod hi wedi bod yn sâl yn ddiweddar. Da iawn Jo!!! X”

Louise Clarke

Roedd Peter Durrant eisiau enwebu Louise Clarke am arwain Cadwch y Sblot yn Daclus. Dywedodd:

“Hoffwn enwebu Louise Clarke o Cadwch y Sblot yn Daclus am fod yn rhagweithiol yn cael bagiau biniau a bagiau eraill allan i’r gymuned, naill ai trwy gyflenwyr 3ydd parti neu o’i chartref… gan gadw pellter cymdeithasol… a hefyd yn trefnu menter casglu sbwriel yn wirfoddol gan fenthyg offer dros dro oddi wrth Cadwch y Sblot yn Daclus.”

Michelle Moore

Enwebais Michelle oherwydd:

“Rwyf am enwebu Michelle Moore am ei holl waith gwirfoddoli a sicrhau bod gan ei ffrindiau, teulu, cymdogaeth a’r gymuned ehangach yr holl hanfodion sydd eu hangen arnynt yn ystod y cyfyngiadau symud (a phopeth wnaeth hi cyn hynny gyda Moorland STAR)”

Gyda nifer o bobl eraill yn gwneud yr un fath:

Dywedodd Rebecca Hill:

“Hoffwn enwebu Michelle Moore fel arwres gymunedol leol yn y Sblot a Thremorfa. Byddai llawer o bobl, fi yn eu plith, ar holl hebddi. Hi yw’r cyntaf i godi arian a chasglu rhoddion i helpu’r sawl sydd mewn angen. Mae hi’n santes ac mae hi’n haeddu cydnabyddiaeth ar gyfer ei holl waith da.”

Dywedodd Tanya Pembery:

“Hoffwn enwebu Michelle Moore oherwydd bod hi’n helpu eraill o hyd a bob tro’n rhoi eraill yn gyntaf. Mae hi’n mynd y tu hwnt i’r gofyn, beth bynnag y dasg. Rwy’n falch iawn o ddweud mai fi yw ei chwaer iau♥️. Mae hi wedi fy helpu i ymdopi gyda llawer o gyfnodau anodd ac wedi fy helpu i ymdopi gyda fy nhriniaeth canser yn ddiweddar ac mae hi yno i mi ar bob adeg. Mae Michelle yn berson hyfryd a chariadus ac mae ei ffrindiau, teulu a chymdogion yn ei charu’n fawr iawn. Mae hi’n gweithio’n galed iawn i helpu’r sawl mewn angen. Michelle rwy’n dy garu di!”

Dywedodd Ankana Tiwari:

“Hoffwn enwebu Michelle Moore am ei holl ymdrechion yn ystod y cyfnod hwn. Mae hi wedi gweithio’n galed iawn yn gyson i sicrhau bod ei chymdogion a’i ffrindiau yn cael popeth sydd eu hangen arnynt. Ar sawl achlysur, mae hi wedi mynd y tu hwnt i’r galw i helpu pobl yn anhunanol. Ni allaf ei hargymell ddigon fel un o “Sêr y Sblot”.

Dywedodd Joanne Evans:

“Hoffwn enwebu Michelle Moore fel ein harwres gymunedol leol yn y Sblot, Tremorfa a’r ardaloedd cyfagos. Byddai nifer o bobl ar goll hebddi. Mae hi wedi helpu nifer o bobl, finnau a fy nheulu yn eu plith, ac fel rhywun sy’n gweithio i’r GIG mae wedi fy nghalonogi ei bod wedi mynd allan o’i ffordd i gynnig cefnogaeth i rai o fy nghydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan gynnwys cyfrannu cyflenwadau i gleifion ar rai wardiau. Mae’n golygu llawer. Mae hi’n un o’r bobl fwyaf diffuant rwy’n eu hadnabod ac mae hi wir yn haeddu cydnabyddiaeth.”

Dywedodd Jayne Bailey:

“Lynne Thomas, hoffwn enwebu Michelle Moore hefyd am yr holl waith caled mae hi wedi gwneud dros ffrindiau a’r gymuned.

A byddai fy mam yn hoffi ei henwebu hi hefyd”

Dywedodd yr hyfryd Maggie Moon:

“Mae’n flin gen i, dydw i methu e-bostio, dwi’n rhy hen am hynny ond fe hoffwn enwebu Michelle Moore am ei holl waith gwirfoddol a sicrhau bod gan ei ffrindiau, teulu, cymdogion a’r gymuned ehangach yr holl hanfodion sydd eu hangen arnynt yn ystod y cyfyngiadau symud (a phopeth wnaeth hi cyn hynny gyda Moorland STAR) diolch x”

Dywedodd Heidi Putbrace:

“Hoffwn enwebu Michelle Moore, mae hi’n mynd y tu hwnt i’r galw i helpu pobl. Mae ganddi ymagwedd hynod bositif a dyna beth sydd angen arnom yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn xx”

Dywedodd Becky May:

“Hoffwn enwebu Michelle, mae hi’n meddwl am eraill ar bob adeg ac yn helpu mas lle bynnag mae hi’n gallu x”

Dywedodd Natasha Lee Jenkins:

“Halen y ddaear yw Michelle More… mae hi’n gwneud pethau caredig o hyd, nid yn unig yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae ganddi ryw fath o brosiect i helpu rhywun ar y gweill o hyd… 💛”

Mikey Britton

Roedd Craig Truman eisiau dweud:

“Hoffwn enwebu un o wŷr bonheddig y Sblot sydd wedi bod yn darparu cartrefi nyrsio a chartrefi gofal â hufen iâ AM DDIM i’r cleifion a’r staff, am beth caredig ac ystyriol i’w wneud.”

Paul Gwilym

Dyma ail enwebiad ar gyfer Paul, gydag Alan Smith eisiau dweud diolch wrth Paul:

“Hoffwn enwebu un o wŷr bonheddig y Sblot sydd wedi bod yn darparu cartrefi nyrsio a chartrefi gofal â hufen iâ AM DDIM i’r cleifion a’r staff, am beth caredig ac ystyriol i’w wneud.”

Sarah Stephens

Dywedodd Holly Collins:

“Hoffwn enwebu Sarah Reach, menyw hyfryd sydd wastad yma i ni a’i chymuned ac sy’n dal i weithio’n galed ar gyfer CCHA ❤️ mae hi’n wych xx”

Staff Canolfan Chwarae’r Sblot

Roedd Sabrina Sabz eisiau dweud diolch:

“Rwyf wedi enwebu Canolfan Chwarae’r Sblot sydd wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd i helpu dosbarthu cyflenwadau bwyd o’r Ganolfan i’r sawl mewn angen!!!

Roedd tîm CCHA The Flourish eisiau dweud:

“Hoffem enwebu Jane a’i thîm yng Nghanolfan Chwarae’r Sblot fel Sêr y Sblot. Maen nhw wedi llunio partneriaeth â Phantri Flourish yn Nhremorfa ac wedi bod yn dosbarthu bwyd ac eitemau hanfodol i dros 170 o gartrefi yr wythnos. Mae pob un ohonynt yn arwyr.”

Tamsin Stirling

Roedd Jane E Boon eisiau enwebu Tamsin oherwydd:

“Hoffwn enwebu fy nghymydog hyfryd Tamsin Stirling sydd wedi gwneud cymaint nid yn unig ar gyfer ei chymdogion ond ar gyfer ei chymuned hefyd. Mae hi’n sicrhau bod y sawl a warchodir neu sy’n hunanynysu yn derbyn darpariaethau a meddyginiaethau. Mae hi hyd yn oed wedi dod â rhai planhigion i ni a oedd yn cael eu rhoddi gan wybod ein bod methu mynd i’w nôl nhw ein hunain.”

Tîm Ysgol Uwchradd Willows

Roedd y Cynghorydd lleol Ed Stubbs eisiau enwebu’r tîm yn Willows oherwydd:

“Aethon nhw ati i drefnu prydau ysgol am ddim a llawer o bethau eraill.”

Ysgol Glan Morfa

Dywedodd Ian Rogers:

“Hoffwn enwebu staff anhygoel Ysgol Glan Morfa yn y Sblot sy’n dal i fynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod gan eu disgyblion weithgareddau hwylus i ganolbwyntio arnynt yn ogystal â gweithgareddau addysgol, gan barhau i addysgu a gofalu am blant gweithwyr allweddol, a ffonio bob wythnos i gadw llygad ar lesiant pawb yn ystod y cyfnod hwn. Diolch yn fawr iawn i chi gyd”

A dyn dirgel! (byddwn yn ei alw’n Ginger o hyn ymlaen)

Dywedodd Alex Fawcwtt:

“Dyn hyfryd ar draws yr hewl i fi (dydw i dal ddim yn gwybod ei enw). Symudom i Ffordd Mervyn tua mis yn ôl a bob wythnos mae wedi rhoi ein bin sbwriel allan os ydym wedi anghofio ac wedi cynnig helpu i losgi unrhyw gardfwrdd sydd gennym ar ôl prynu dodrefn gan ein bod methu mynd i’r tip ar hyn o bryd!”

Dywedodd Jenny Davies:

“Mae Ginger yn arwr lleol, yno i helpu cymdogion a rhoi gwên ar wyneb pobl ar bob adeg😀”

Felly, dyna chi! Nid rhestr gynhwysfawr o bell ffordd, ond dyma’r enwebiadau a anfonwyd at Incsblot erbyn y dyddiad cau. Os hoffech chi ychwanegu unrhyw at y rhestr, ychwanegwch sylw ar waelod yr erthygl.

Inksplott