Newyddion

Y prosiectau parseli bwyd anhygoel yn y Sblot

Oherwydd y cyfyngiadau symud a hunanynysu nid yw Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot wedi gallu gweithredu fel arfer, ond nid yw hynny wedi stopio’r tîm y tu ôl i’r mudiad hwn rhag darparu bwyd, teganau a chefnogaeth i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein hardal.

Dywedodd un o’r aelodau a sylfaenodd y mudiad, Angela Bullard, wrth Incsblot sut mae’r grŵp wedi addasu i barhau i helpu pobl yn ystod y cyfnod anodd hwn:

“Mae Fred yn aros yn y tŷ ar hyn o bryd oherwydd bod ei feddyginiaeth wedi atal ei system imiwnedd, felly nid ydym wedi gallu casglu bwyd fel rydym fel arfer yn gwneud ar gyfer y Clwb Brecwast. Felly, fe gasglon ni’r holl fwyd cwpwrdd o’n tri lleoliad ac rydw i wedi bod yn mynd â bagiau bwyd allan a’u gadael ar stepen drws pobl cyn neidio yn ôl yn y car a fy hylif diheintio dibynadwy! Gyda lwc, mae Tesco Pengam Green wedi bod yn hael iawn gyda bwydydd tun ac yn ddiweddar iawn, mae’r Co-Op ar Ffordd Sblot  wedi bod yn ffantastig.”

Mae llawer o gymorth allan yno gyda pharseli bwyd, felly mae Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot wedi canolbwyntio ar y sawl nad sy’n gallu cael mynediad atynt am un rheswm neu’r llall. Dyma yw rhai o’r bobl maen nhw wedi’u helpu:

•             Mam ifanc gyda dau blentyn a symudodd yn sydyn yn ddi-rybudd o hostel i mewn i dŷ gwag.  Mae hi’n ofni mynd â’r plant allan ac, yn dilyn camdriniaeth ddomestig ddiweddar, nid yw hi wedi cael unrhyw gefnogaeth arall. Aeth Angela â bwyd iddi ynghyd â theganau a chrefftau ar gyfer y plant a threfnu cefnogaeth bellach gan grwpiau megis Byddin yr Iachawdwriaeth, ac ati.

•             Dyn ifanc, ei wraig, ei blentyn a’i fam wedi iddynt orfod gadael tŷ’r tad yn hwyr yn y nos heb gyfle i gasglu eiddo’r teulu. Mae’n aros gyda pherthnasoedd ond nid oes ganddo unrhyw adnoddau oherwydd ei fod ar fin cychwyn swydd newydd wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu cyhoeddi. Roeddent yn falch iawn o dderbyn bwyd a theganau.

•             Menyw nad sy’n gadael y tŷ a gafodd ladrad yn ei thŷ gan golli nid yn unig arian ond ei ffôn ac ati, gan olygu bod dim modd iddi gysylltu ag unrhyw un am gymorth. Eto, aeth Angela â bwyd ati a threfnu cefnogaeth iddi.

•             Cwpl o nyrsys a oedd wedi cael eu hanfon adref i hunanynysu gan eu bod yn dangos arwyddion o’r feirws ar ôl nyrsio cleifion yn yr uned gofal dwys. Nid oeddent yn gallu siopa am ddarpariaethau ychwanegol ac roeddent yn cael trafferth cael slot ar gyfer dosbarthiadau bwyd. Aeth Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot ati i ddarparu digon o fwyd i helpu’r teuluoedd hyn tan fod modd trefnu dosbarthiadau bwyd iddynt.

•             Dyn heb lawer o gyflenwadau nad oedd yn gallu siopa gan ei fod ar fin mynd i’r ysbyty am lawdriniaeth, er bod hwn wedi oedi ar hyn o bryd, wrth reswm.

Dyma ond rhai o’r bobl mae Angela wedi bod yn dosbarthu bwyd iddynt, yn ogystal â sicrhau bod gan wirfoddolwyr agored i niwed y mudiad ac eraill digon o adnoddau ar gyfer eu hanghenion.

Mae Angela yn llawn canmoliaeth ar gyfer Co-op Ffordd Sblot  a phobl hael y Sblot:

“Mae’r Co-op hefyd yn un o’r archfarchnadoedd sy’n ein cefnogi a chefais alwad ffôn gan Tom o’r siop ar Ffordd Sblot wythnos ddiwethaf yn awgrymu cychwyn banc bwyd ym mlaen y siop a, gan wybod ein sefyllfa gyda chasglu a dosbarthu bwyd, fe gynigodd dod â’r bwyd i fy nghartref er mwyn i ni allu parhau i helpu pobl.  Nid yw pobl hyfryd y Sblot wedi ein siomi! Fel y gwelsoch ar Facebook, roedden nhw’n hael iawn gan roddi eitemau a fydd yn ddefnyddiol iawn i bobl mewn angen.

“Os yw pobl yn gallu fforddio rhoddi un eitem yr wythnos i fanc bwyd Tom, bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i eraill yn ystod y cyfnod hynod anodd ac annisgwyl hwn.”

Oasis Caerdydd

Mae Oasis Caerdydd, canolfan yn y Sblot sy’n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru, wedi bod yn dosbarthu parseli bwyd bob dydd i’w aelodau a phobl agored i niwed.

Gallwch ddarllen mwy am waith y grŵp yma: https://www.inksplott.co.uk/an-oasis-for-people-in-need/

STAR Moorland

Mae Canolfan Gymunedol STAR Moorland wedi bod yn cefnogi’r sawl dros 55 yn y Sblot am ddegawdau a dydy hynny ddim ar fin dod i ben oherwydd y cyfyngiadau symud. Mae’r tîm ym Moorland yn dosbarthu prydau cartref i bobl hŷn bob dydd, gyda chefnogaeth gan fusnesau megis Canolfan Mileniwm Cymru a Siop Nisa’r Sblot ar Stryd Carlisle; busnes gwych arall sy’n helpu’r gymuned leol.

Dysgwch fwy am waith STAR Moorland a sut gallwch chi eu cefnogi yma: https://www.facebook.com/pg/moorlandcommunitycentre/about/

Gyda phobl anhygoel yn dangos cymaint o anhunanoldeb ac ysbryd cymunedol, gallwch fod yn hynod falch o fyw yn y Sblot!

Inksplott