Newyddion

Wyneb newidiol Parc Moorland

Collwyd y gerddi ond mae’r parc yma i aros.

A wyddoch chi fod Parc Moorland yn un o’r parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu diogelu gan Meysydd Chwarae Cymru am byth?

Mae Parc Moorland, sydd wedi’i leoli ar waelod Stryd Castell Nedd / Stryd Abertawe wedi cael ei diogelu ers mis Mai 2014 fel Maes Brenhines Elisabeth II, ond beth mae hynny’n ei olygu?

Wel, yn syml, mae’n golygu bod y parc wedi’i diogelu am byth, sy’n wych ar gyfer y sawl sy’n byw yn y Sblott, gan fod neb yn gallu prynu neu ddatblygu’r parc. Hwre! Man gwyrdd yn y Sblot am byth!

Mae gan fudiad Meysydd Chwarae Cymru ychydig mwy o wybodaeth ar hanes y categori:

“Meysydd Brenhines Elisabeth II (QE yn yr Alban): Gan adeiladu ar draddodiad Meysydd Brenin Sior V, fe ddathlon Jiwbilî Ddiemwnt ein Noddwr, Ei Mawrhydi’r Frenhines, trwy ddiogelu etifeddiaeth o barciau a mannau gwyrdd ledled y DU am byth. Diogelwyd cyfanswm o 1,396 man gan gynnwys iardiau chwarae plant, llwybrau beicio, coetiroedd, gwarchodfeydd natur a llwybrau arfordirol. I gyd-fynd â Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, a gan ymestyn i mewn i Gemau’r Gymanwlad 2014, bu’r prosiect hwn, a gefnogir gan Asda a’r Asda Foundation, sicrhau buddsoddiad o £4 miliwn ar gyfer y mannau hyn.”

Mae Parc Moorland yn cynnwys 3.76 hectar i laswellt a choetiroedd. Ond roedd y parc gwreiddiol, a agorwyd i’r cyhoedd ar 30 Mai 1895, yn cael ei adnabod fel Gerddi Moorland ac roedd  mewn lleoliad ychydig yn wahanol. Roedd Gerddi Moorland yn bennaf yn cynnwys llwybrau cerdded a gwelyau blodau.

Yn ôl Parciau Caerdydd:

“Ym mis Gorffennaf 1891, cytunodd y Pwyllgor Parciau i dderbyn rhodd o dir tua 1 ½ erw yn y Sblot o’r Arglwydd Tredegar ar gyfer y man agored a ddaeth i fod yn Erddi Moorland.  Roedd y rhodd yn amodol ar y Cyngor yn amgylchynu’r tir ac yn talu hanner y gost o adeiladu’r ffyrdd o’i amgylch. Y ffyrdd hyn oedd Ffordd Singleton, Stryd Hinton a Ffordd Moorland.

Mae mapiau Arolwg Ordnans yn dangos, erbyn y 1980au, bod man agored newydd, Parc Moorland, wedi cael ei greu ar ochr arall Ffordd Singleton, lle roedd yna strydoedd a thai yn wreiddiol.”

Am flas ar hanes Gerddi Moorland, cliciwch yma

Ffaith hwylus am Barc Moorland: dyma leoliad coeden hynaf y Sblot, a blannwyd tua 1870!

Mae’n ffantastig bod Parc Moorland wedi’i amddiffyn am byth gan fod coed mor bwysig i’n hamgylchedd. Diolch i fudiad Meysydd Chwarae Cymru.

I ddysgu mwy am fudiad Meysydd Chwarae Cymru a Pharc Moorland, cliciwch yma: http://www.fieldsintrust.org/FieldSite/MOORLAND-PARK

Inksplott