Newyddion

Cyfweliad Incsblot: Baby Boots Infant Massage

Yr wythnos hon, cafodd Incsblot sgwrs â phreswylydd lleol, Sarah, sydd wedi lansio busnes o’r enw Baby Boots sy’n cynnig tylino ar gyfer babanod.

Incsblot: Helo Sarah, diolch am gael eich cyfweld ar gyfer Incsblot.   Allwch chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi’ch hun a’ch busnes, Baby Boots- Infant Massage?

Sarah: Helo! Gallaf – mae tylino babanod yn cael ei wneud gan fam, tad neu ofalwr ac mae’n cynnwys technegau penodol i helpu gyda chysur a datblygiad eich babi. Rwy’n hyfforddwyr tylino babanod cymwys felly fy rôl yw dysgu’r technegau hyn i rieni er mwyn eu darparu â dealltwriaeth drylwyr a manwl o sut i dylino eu plentyn yn ddiogel ac yn gywir ac i basio ymlaen yr wybodaeth a ddaw gyda’r sgil gwych hwn!

Mae pobl yn aml yn gofyn, pam fod angen tylino babanod? Wel, mae nifer o resymau… Mae’n wych nid yn unig i greu cysylltiad, ond mae hefyd yn gallu helpu gyda nifer o bethau eraill megis rhwymedd a cholig ynghyd â gwella poen gwynt y babi. Gall leddfu anghysur cael dannedd, magu mwy o bwysau a gwella cylchrediad a helpu eich babi i ymlacio a chysgu. Gall hefyd fod yn hynod o fuddiol ar gyfer mamau a allai fod wedi dioddef unrhyw fath o iselder ôl-enedigol. Mae’r rhestr yn parhau!

I gynnwys yr holl elfennau’n llawn, mae’r cwrs yn para 5 wythnos gan sôn am wahanol ran o’r corff bob wythnos a chaniatáu digon o amser i ymarfer! Mae’r dosbarthiadau hefyd yn wych i rieni allu cwrdd a chymdeithasu â rhieni eraill mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol.

Incsblot: Sut gychwynnoch chi yn y maes? Allwch chi ddweud ychydig wrthym am hanes eich busnes?

Sarah: Wel, rwy’n gweithio ym maes adferiad niwrolegol plant yn gweithio’n benodol gyda phlant sydd wedi cael anafiadau i’r ymennydd. Mae’r tîm rwy’n gweithio ynddo yn helpu plant a theuluoedd trwy eu hadferiad gan ddefnyddio therapi dwys dros nifer o wythnosau. Mae gennyf ddiddordeb mewn therapïau holistaidd a therapi tylino yn benodol ac ro’n i’n teimlo basai astudio hwn yn fuddiol iawn i gymaint o fabanod a rhieni am nifer o resymau.

IncsblotA pham fod y busnes yn y Sblot?

Sarah: Rwy’n byw yn y Sblot fy hun felly dyma fy nghymuned – mae’n wych gallu cynnig y dosbarthiadau hyn i deuluoedd lleol. Rwy’n gweithio yn ‘One Fox Lane’ (ar Broadway yn Waunadda – ger Ffordd Casnewydd), sef man o’r neilltu gyda’i gardd fach ei hun sy’n teimlo fel cuddfan hamddenol yn y ddinas! Mae yna awyrgylch hyfryd yno.

IncsblotBeth yw eich arbenigedd?

Sarah: Wel, ynghyd â’r dosbarthiadau tylino babanod, rwyf hefyd wedi derbyn hyfforddiant trwy ‘Calm Kids’ i ddysgu myfyrio i blant a chanu makaton i gynorthwyo â chyfathrebu ac rwyf hefyd yn defnyddio hwn yn fy ngwaith adfer.

Incsblot: Beth yw eich stori orau ers sefydlu’r busnes?

Sarah: Falle pan i mi gael fy holi ar drên tra’n cario fy nol arddangos tylino babi. Roedd hynny’n weddol ryfedd!

IncsblotDywedwch gyfrinach wrthym am y Sblot neu rywbeth nad ydym yn ei wybod am yr ardal.

Sarah: Dwi’n dweud dim!

IncsblotUnrhyw gynlluniau neu ddigwyddiadau cyffrous ar y gorwel?

Sarah: Rwyf newydd gyhoeddi’r dyddiadau ar gyfer dosbarthiadau newydd Baby Boots- Infant Massage, yn cychwyn ym mis Ionawr.

Incsblot: A yw pobl yn gallu eich dilyn ar-lein?  A oes gennych chi Facebook, Twitter neu wefan?

Sarah: Oes – mae’r holl fanylion ar fy nhudalen ar Facebook: Baby Boots- Infant Massage neu e-bostiwch babybootsinfantmassage@mail.com.  Diolch!

IncsblotMae hynny’n wych – diolch yn fawr am y cyfweliad!

Inksplott