Newyddion

Sut i roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol yn y Sblot a Thremorfa

Yn ystod cyfarfod PACT (Heddlu a Chymunedau Gyda’i Gilydd) diweddar, fe ddysgom am flaenoriaethau’r heddlu ar gyfer ein hardal a’r gwahanol ffyrdd y gallwn roi gwybod am droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae mwy o ffyrdd o wneud hynny na’r disgwyl!

Yn gyntaf, y tair blaenoriaeth ar gyfer y Sblot a Thremorfa:

  1. Ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol (yn bennaf, y bechgyn ar feics yn difrodi ceir a reidio beiciau modur oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon o amgylch ein strydoedd)
  2. Tipio anghyfreithlon a sbwriel
  3. Parcio gwael ac anghyfreithlon ar Ffordd Sblot

Mae baw cŵn hefyd yn flaenoriaeth ond daeth mesur newydd i ddirywio perchnogion cŵn nad sy’n cario bagiau baw i rym a fydd gobeithio’n cychwyn cael effaith a lleihau nifer yr achlysuron o berchnogion cŵn yn gadael i’w hanifeiliaid wneud eu busnes ar y stryd neu’r palmant cyn cerdded i ffwrdd. Rydym yn croesi’n bysedd.

Felly, beth ddylem ni wneud pan fyddwn yn gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drosedd? Dyma’r manylion:

Trosedd ar fynd, yn enwedig os oes perygl i fywyd, neu droseddau difrifol

Mae hwn yn un syml: ffoniwch 999.

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol a mân ddigwyddiadau

Ffoniwch 101: Mae’n bosib y bydd rhaid i chi aros (ac mae nifer o bobl wedi dweud ar gyfryngau cymdeithasol bod hyn yn peri iddynt beidio â ffonio’r rhif hwn, ond gofynnir ichi ddal ati oherwydd bod pob galwad a gaiff ei gofnodi yn golygu ein bod yn dringo i fyny’r raddfa o flaenoriaeth a bod mwy o adnoddau’n cael eu darparu yn ein hardal ni).  Dyma gyfarwyddiadau Heddlu De Cymru: Dylid ffonio 101 i roi gwybod am droseddau nad ydynt yn rhai brys ac ar gyfer ymholiadau cyffredinol. Dyma’r rhif i ffonio os yw’ch car wedi cael ei ddwyn er enghraifft, neu os ydych chi eisiau rhoi gwybod am ddefnyddio neu ddelio cyffuriau, os yw’ch eiddo yn cael ei ddifrodi neu i siarad â heddwas.

E-bost: Gallwch e-bostio Heddlu De Cymru ar publicservicecentre@south-wales.pnn.police.uk i gofnodi eich adroddiad

Ar-lein: Gallwch lenwi ffurflen gyswllt yma: https://digitalservices.south-wales.police.uk/cy/rhoi-gwybod-am-droseddau-ar-lein/

Mewn person: Gallwch alw i mewn i orsaf heddlu. Dewch o hyd i’ch un agosaf yma: https://www.south-wales.police.uk/cy/cysylltu-a-ni/gorsafoedd-heddlu/

Cysylltu â’ch heddwas lleol

Rheolwr Rhawd Gymunedol – PC Kate Howls (Y Sblot)

Rhif y Llu: swp5528

Rheng: Cwnstabl

Rhif Cyswllt: 07584004447

E-bost: Kate.Howls3@south-wales.pnn.police.uk

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Mike O’Sullivan (Y Sblot)

Rhif y Llu: swp56599

Rheng: Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu

Rhif Cyswllt: 07805301527

E-bost: Michael.OSullivan@south-wales.pnn.police.uk

Rheolwr Rhawd Gymunedol – PC Mohsin Irshad (Tremorfa)

Rhif y Llu: swp6277

Rheng: Cwnstabl

E-bost: Mohsin.Irshad@south-wales.pnn.police.uk

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Simon Pinnell (Tremorfa)

Rhif y Llu: 56316

Rheng: Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu

Rhif Cyswllt: Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Simon Pinnell (Tremorfa)

E-bost: Simon.Pinnell@south-wales.pnn.police.uk

Rhoi gwybod yn ddienw

A wyddoch chi eich bod yn gallu rhoi gwybod am drosedd ond gofyn eich bod yn aros yn ddienw a gofyn na fod heddwas yn ymweld â’ch cartref? Bydd yr heddlu ond yn cysylltu â chi ar y ffôn. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych yn ofni dial am roi gwybod am gymdogion neu bobl yr ydych yn eu hadnabod.

Defnyddiwch wefan Heddlu De Cymru i ddarganfod am y Sblot: https://www.south-wales.police.uk/en/search/?wpv_post_search=splott

Rhoi Gwybod am Dipio Anghyfreithlon

Gallwch roi gwybod am dipio anghyfreithlon ar-lein yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/addysg-a-gorfodaeth-gwastraff/tipio-anghyfreithlon/Pages/default.aspx

Mae’n hawdd ar Ap Caerdydd Gov hefyd – y cwbl sy’n rhaid i chi wneud yw ei lawrlwytho ar eich ffôn.

Rhoi gwybod am broblem parcio

Gallwch roi gwybod am broblem parcio ar-lein yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Rhoi-gwybod-am-broblem-parcio/Pages/default.aspx

Heddlu a Chymunedau Gyda’i Gilydd

Pact stands for Police and Community Together.  Cynhelir cyfarfodydd Heddlu a Chymunedau Gyda’i Gilydd yn rheolaidd yn y Sblot ac mae croeso i bawb. Mae aelodau Heddlu De Cymru yn mynychu’n aml, gan gynnwys y Rheolwr Rhawd Gymunedol – PC Kate Howls (Y Sblot), Y Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Mike O’Sullivan (Y Sblot) a’r Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Simon Pinnell (Tremorfa).  Mae’n gyfle gwych i glywed am y pethau sydd wedi bod yn digwydd i fynd i’r afael â phroblemau yn yr ardal ac i godi unrhyw faterion newydd hefyd.

Gobeithio bod hwn yn ddefnyddiol i chi. Cofiwch fod yn wyliadwrus, peidiwch â gadael eitemau gwerthfawr yn y car ar unrhyw adeg, nid am funud yn unig hyd yn oed, a rhowch wybod am droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol pan fyddwch yn eu gweld. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.

Inksplott