Newyddion

Y Ras Liwiau yn dod i Gymru am y tro cyntaf

Ym mis Medi, cynhelir y Ras Liwiau am y tro cyntaf yng Nghymru pan fydd yn dod i Barc Bute Caerdydd yn 2020.

LLIWIAU + RHEDEG = DATHLU!

Dyna bennawd gwefan y Ras Liwiau. Nod y sefydliad yw dod â phobl at ei gilydd a gwneud y byd yn lle hapusach ac iachach:

“Rydym yn credu mai’r Ras Liwiau yw’r ‘5km hapusaf ar y blaned’ gan fod y digwyddiad yn dod â ffrindiau a theuluoedd ynghyd mewn modd unigryw o adloniant a dathlu. Y Ras Liwiau yw’r ras liwgar, hwylus 5km wreiddiol, fwyaf a mwyaf unigryw yn y byd sy’n dathlu iachusrwydd, hapusrwydd, cyfeillgarwch a mwynhad!

“Mae demograffeg y sawl sy’n cymryd rhan ynghyd â rhesymau dros wneud yn amrywio. Gyda dim enillwyr nag amser swyddogol, mae’r Ras Liwiau yn addas i bawb. Mae rhai yn cymryd rhan fel dathliad ac uchafbwynt o’r cyflawniadau iachus, tra bod rhesymau pobl eraill dros gymryd rhan yn unigryw iddyn nhw.”

Cynghorir y sawl sy’n cymryd rhan i “baratoi am enfys o hwyl gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr wrth i chi ddisgleirio ar hyd y llwybr 5km – gyda ffrwydrad o liw ar bob cilometr a pharti taflu lliw enfawr ar y diwedd lle gallwch chi ddefnyddio unrhyw egni sydd gennych dros ben i ddawnsio i ganeuon y DJ.”

Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad nawr ac fe gewch ostyngiad i’r pris os byddwch yn gwneud hynny nawr. Ar gyfer grwpiau o 10 neu fwy mae’r pris yn cychwyn o £18, grwpiau rhwng pedwar a naw £20 ac unigolion o £23. Gallwch gofrestru ar-lein ar https://thecolorrun.co.uk/

Dywedodd Alan Brown, cyfarwyddwr rasys sefydliad The Colour Run UK:

“Mae’r Ras Liwiau’n apelio i nifer fawr o bobl – mae dros saith miliwn o bobl ar draws 50 gwlad wedi cael profiad o’r digwyddiad anhygoel hwn – ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â’r Ras Liwiau i Barc Bute Caerdydd am y tro cyntaf.

“Nid yr amser neu’r pellter sy’n bwysig ond cael hwyl a mwynhau. Mae’n wych gweld yr holl grysau-t gwyn hynny ar y cychwyn yn llawn lliw ar y diwedd. Mae gan bawb gwên fawr ar eu hwyneb ar y diwedd a dyna le mae’r hwyl wir yn cychwyn!

“Mae awyrgylch parti go iawn o’r cychwyn i’r diwedd a gallwch weld hynny yn y gwisgoedd mae pobl yn eu gwisgo hefyd gyda nifer yn gwneud llawer o ymdrech. Rydym yn gweld pob math o wisgoedd ac mae gennym wigiau lliwgar, lliwiau gwallt, twtwau, bandiau gwallt a sanau ar gyfer y sawl sydd eisiau bod llawn lliw ar gyfer digwyddiad mwyaf lliwgar y flwyddyn.

“Mae nifer o ddigwyddiadau wedi ceisio efelychu ras ond dyma’r Ras Liwiau wreiddiol ac rydym yn gwneud ymdrech fawr er mwyn i’r digwyddiad fod yn berffaith i bawb sy’n cymryd rhan.”

Cynhelir y Ras Liwiau 2020 ym Mharc Bute yn y ddinas ar ddydd Sadwrn 5 Medi. Mae’r digwyddiad yn cychwyn am 11am ond anogir y sawl sy’n cymryd rhan i gyrraedd mor gynnar â phosib i fwynhau’r gweithgareddau cyn y ras ynghyd â’r rhai ar ôl y digwyddiad.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan neu Facebook neu Instagram a dilyn @TheColorRunUK.

Inksplott