Author Archives: Lowri Griffiths

Y SAFLEOEDD UN TORIAD ARFAETHEDIG AR GYFER PARC MOORLAND, PARC Y SBLOT A PHARC TREMORFA

Mwy o safleoedd ‘un toriad’ sy’n dda i beillwyr wedi’u cadarnhau i dri pharc yn y Sblot. Mae 2.6 hectar ychwanegol o barcdir yng Nghaerdydd yn symud at gyfundrefn torri gwair ‘un toriad’ sy’n fuddiol i beillwyr. Mae’r penderfyniad i leihau amlder torri gwair ar draws ardal sy’n cyfateb i faint 6 chae pêl-droed yn […]

Posted in Dan Sylw, Newyddion | Tagged , , , , | Leave a comment

BERNICE RUBENS – AWDURES O’R SBLOT AC ENILLYDD BENYWAIDD CYNTAF GWOBR BOOKER

Ganwyd Bernice Ruth Rubens, enillydd benywaidd cyntaf Gwobr dra chwenychedig Booker, yma yn y Sblot ar Orffennaf 26 ym 1928. Roedd ei thad, Eli Rubens, yn Iddew o Lithwania a oedd wedi ffoi rhag gwrth-Semitiaeth ac wedi mynd ar long i Efrog Newydd, neu felly roedd yn meddwl. Mewn gwirionedd, cafodd ei dwyllo a dywedwyd […]

Posted in Dan Sylw, Newyddion | Tagged , , , | Leave a comment

Dathlu gerddi ffrynt yn y Sblot

Mae prosiect garddio’r Sblot a Thremorfa, Tyfu Sgwrs y Stryd, wedi bod yn dathlu gerddi ffrynt blodeuog preswylwyr y mis Awst hwn. Cadwch lygad ar eu tudalennau Facebook a Twitter am y rhestr lawn o’u leoliadau o amgylch y Sblot, Tremorfa a Phengam Green ac am awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu chi i wneud y gorau […]

Posted in Cymuned, Dan Sylw, Newyddion, Prosiectau | Tagged , , , | Leave a comment

CANOLFAN WAUNADDA SY’N CEFNOGI POBL AGORED I NIWED YN RHAN O FWLETIN NEWYDDION DA SEREN Y BYD COMEDI

Bydd Canolfan Diwylliant ac Addysg Al-Ikhlas yn Waunadda, sydd wedi bod yn helpu cannoedd o bobl agored i niwed yn y gymuned yn ystod argyfwng COVID-19, yn ymddangos ym mhedwaredd bennod Bwletin Newyddion Da’r Loteri Genedlaethol – crynhoad wythnosol o straeon cadarnhaol sy’n cael ei gyflwyno gan y digrifwr enwog, Joe Wilkinson. O gymunedau yn […]

Posted in Canolfannau, Cymuned, Dan Sylw, Newyddion | Tagged , , | Leave a comment

CROESO AR OLWYNION; DEFNYDDIO BEICIAU I ROI ANNIBYNIAETH I FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES

Gall reidio beic gael effaith gadarnhaol fawr ar iechyd meddwl, a dyna pam mae Oasis Caerdydd wedi creu Seiclo Caerdydd #ShareToRepair; prosiect sy’n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches i uwchgylchu beiciau a rhoi’r annibyniaeth iddynt archwilio eu dinas newydd. Canolfan gymorth a gwasanaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghaerdydd yw Oasis […]

Posted in Canolfannau, Cymuned, Dan Sylw, Newyddion | Tagged , , , | Leave a comment

O Driongl Concrit Distrywiedig i Driongl Concrit Blodeuog!

Yn gynharach eleni, bu Cadwch y Sblot yn Daclus, gyda chefnogaeth Incsblot a Chymdeithas Tai Cymuned Caerdydd, wneud cais am grant Prosiect Bywyd Gwyllt Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus i drawsnewid rhan go llwm o’r Sblot yn hafan bywyd gwyllt a… gallwn gyhoeddi bod ein cais wedi bod yn llwyddiannus!!!! Dychmygwch… Mae […]

Posted in Dan Sylw, Di-gategori, Newyddion | Tagged , , , , | Leave a comment

Sêr y Sblot!

Yn ddiweddar, gofynnodd Incsblot i bobl y Sblot enwebu eu Sêr y Sblot; pobl sydd wedi mynd y tu hwnt i’r galw iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn. Wel, Sblot, dydych chi heb ein siomi! Derbyniwyd llwythi o enwebiadau. Dyma nhw (yn nhrefn yr wyddor): Amy Barry Dywedodd David Price: “Amy Barry –  am […]

Posted in Cymuned, Dan Sylw, Newyddion | Leave a comment

Y stryd yn y Sblot a ddathlodd pen-blwydd arbennig

Oherwydd y sefyllfa gyfredol, nid oedd merch sy’n gweithio i’r GIG ac sy’n byw yn y Sblot yn methu bod gyda’i theulu ar ei phen-blwydd yn 30, felly fe gysylltodd ei chwaer â phobl ar ei stryd i ofyn am eu help. Roedd yr ymateb yn anhygoel. Mae Steph yn dod o Fryste, yn byw […]

Posted in Di-gategori | Leave a comment

Y prosiectau parseli bwyd anhygoel yn y Sblot

Oherwydd y cyfyngiadau symud a hunanynysu nid yw Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot wedi gallu gweithredu fel arfer, ond nid yw hynny wedi stopio’r tîm y tu ôl i’r mudiad hwn rhag darparu bwyd, teganau a chefnogaeth i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein hardal. Dywedodd un o’r aelodau a sylfaenodd y mudiad, […]

Posted in Canolfannau, Cymuned, Dan Sylw, Elusennau, Newyddion | Tagged , , , , | Leave a comment
Inksplott